- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013, Paragraff 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
4. Ar ôl erthygl 5 mewnosoder—LL+C
5A.—(1) Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hybu cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.
(2) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff nac i'w swyddogaethau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967.
(3) Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.
(4) Mae adran 1(3A) o Ddeddf Coedwigaeth 1967(1) yn gwneud darpariaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng cadwraeth natur a materion eraill y mae'n rhaid i'r Corff ymdrechu i'w cyflawni wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.
5B Wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i newidiadau ecolegol gwirioneddol neu bosibl.
5C.—(1) Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hyrwyddo darpariaeth a gwelliant cyfleoedd—
(a)i fynd i gefn gwlad a mannau agored a'u mwynhau;
(b)at hamdden awyr agored; ac
(c)i astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
(2) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff.
(3) Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw parhau i sicrhau bod cyfleoedd presennol o'r mathau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar gael i'r cyhoedd.
(4) Mae adran 2 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968(2) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch dyletswyddau'r Corff sy'n ymwneud â chyfleusterau ar gyfer mwynhau cefn gwlad, cadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder cefn gwlad, a mynediad y cyhoedd i gefn gwlad at hamdden.
5D Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—
(a)pa mor ddymunol yw gwarchod a chadw adeiladau, adeileddau, safleoedd a gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol, peirianegol neu hanesyddol;
(b)pa mor ddymunol yw sicrhau bod unrhyw gyfleuster at ymweld ag unrhyw adeilad, adeiledd, safle neu wrthrych o'r fath neu eu harolygu yn parhau ar gael i'r cyhoedd, i'r graddau y mae'n gyson ag is-baragraff (a) ac erthygl 5A.
5E Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—
(a)iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion a chymunedau;
(b)llesiant economaidd unigolion, busnesau a chymunedau.
5F.—(1) Mae'r dyletswyddau yn erthyglau 5A i 5E yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried unrhyw gynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff, fel y maent yn gymwys i'r Corff wrth iddo arfer y swyddogaethau hynny.
(2) Ond nid yw'r ddyletswydd yn erthygl 5A(1) yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried cynigion o'r fath ond i'r graddau y mae'r ddyletswydd yn gyson â'r canlynol—
(a)yr amcan o sicrhau datblygu cynaliadwy; a
(b)dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(3).
5G.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo gan y Corff hawliau i ddefnyddio dŵr neu dir sy'n gysylltiedig â dŵr.
(2) Rhaid i'r Corff gymryd camau priodol i sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu harfer mewn modd sy'n sicrhau bod y dŵr neu'r tir—
(a)ar gael at ddibenion hamdden; a
(b)ar gael yn y modd gorau.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “camau priodol” (“appropriate steps”) yw camau—
(a)sy'n rhesymol ymarferol; a
(b)sy'n gyson â darpariaethau unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff.
(4) Rhaid i'r Corff sicrhau cydsyniad unrhyw awdurdod mordwyo, awdurdod harbwr neu awdurdod cadwraeth cyn gwneud dim o dan baragraff (1) sy'n peri rhwystr i'r mordwyo sydd o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw, neu ymyrraeth arall â'r mordwyo hwnnw.
(5) Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(4) yn gwneud darpariaeth gyffredinol bellach ynghylch swyddogaethau'r Corff o ran dŵr.
5H.—(1) Caiff y Corff ddarparu, neu wneud trefniadau i ddarparu, cyfleusterau at y dibenion a bennir ym mharagraff (2) ar unrhyw dir sy'n perthyn iddo, y mae'n ei ddefnyddio neu'n ei reoli, neu a drefnir at ei ddefnydd gan Weinidogion Cymru.
(2) Dyma'r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)twristiaeth a mwynhau cefn gwlad a mannau agored;
(b)hamdden a chwaraeon;
(c)astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
(3) Ym mharagraff (1), mae “cyfleusterau” (“facilities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad—
(a)llety i ymwelwyr, safleoedd gwersylla a safleoedd carafannau;
(b)safleoedd picnic a mannau ar gyfer prydau a lluniaeth;
(c)mannau i fwynhau golygfeydd a mannau parcio;
(d)llwybrau ar gyfer cerdded, beicio neu astudio'r amgylchedd naturiol;
(e)canolfannau addysg, canolfannau arddangos a gwybodaeth;
(f)siopau mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r cyfleusterau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (e);
(g)cyfleusterau cyhoeddus.
5I Mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 39 o Ddeddf Coedwigaeth 1967(5) i gaffael tir yn cynnwys pŵer i gaffael tir yn agos at dir sydd wedi ei drefnu ganddynt at ddefnydd y Corff yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf honno pan fo'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y tir y bwriedir ei gaffael yn ofynnol yn rhesymol er mwyn darparu'r cyfleusterau a grybwyllwyd yn erthygl 5H.
5J Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfau o dan adran 46 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 yn cynnwys pŵer i wneud is-ddeddfau—
(a)i reoleiddio defnyddio rhesymol ar gyfleusterau a ddarperir o dan erthygl 5H, a
(b)o ran unrhyw fater a ddisgrifir yn adran 41(3) o Ddeddf Cefn Gwlad 1968(6).”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
1967 p. 10. Mewnosodwyd adran 1(3A) gan adran 4 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Diwygio) 1985 (p. 31).
1968 p. 41. Cafwyd nifer o ddiwygiadau i adran 2, gan gynnwys y rhai a wnaed gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16), Atodlen 11, paragraff 43. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau pellach i adran 2.
1991 p. 56. Cafwyd diwygiadau i adran 2, gan gynnwys yn benodol y rhai a wnaed gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37), adran 39.
1995 p. 25. Mae diwygiadau i adran 6 sy'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn wedi eu gwneud gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37), adran 72; Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dŵr (Cymru a Lloegr) 2009 (O.S. 2009/463), Atodlen 2, paragraff 9(b); Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p. 23), adran 230; a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29), Atodlen 2, paragraffau 51 a 52. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau pellach i adran 6.
1967 p. 10. Gwnaed diwygiadau i adran 39 sy'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn gan Orchymyn Deddf yr Alban (Awdurdodau Cyhoeddus Trawsffiniol) (Addasu Swyddogaethau etc.) 1999 (O.S. 1999/1747), Atodlen 12, paragraff 4(1) a (28) i (31).
1968 p. 41. Cafwyd diwygiadau i ddarpariaethau eraill yn adran 41.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys