- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013, RHAN 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1.—(1) Yn yr Atodlen hon—
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2013;
ystyr “swyddogaeth drosglwyddedig” (“transferred function”) yw unrhyw swyddogaeth sydd, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn, yn dod yn arferadwy ar y dyddiad trosglwyddo gan gorff neu berson ac eithrio'r corff neu'r person yr oedd yn arferadwy ganddo yn union cyn y dyddiad hwnnw;
ystyr “trosglwyddai” (“transferee”) yw y corff neu'r person y daw swyddogaeth drosglwyddedig yn arferadwy ganddo ar y dyddiad trosglwyddo;
ystyr “trosglwyddwr” (“transferor”) yw y corff neu'r person yr oedd swyddogaeth drosglwyddedig yn arferadwy ganddo yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.
(2) At ddibenion y diffiniad o “swyddogaeth drosglwyddedig”, nid yw o bwys bod swyddogaeth yn dal yn arferadwy ar y dyddiad trosglwyddo ac wedyn gan y trosglwyddwr yn ogystal â'r trosglwyddai (boed hynny ar y cyd neu fel arall).
(3) Yn yr Atodlen hon, mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw beth a wneir gan drosglwyddwr neu mewn perthynas ag ef yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw beth a gaiff ei drin, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddwr hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
2.—(1) Nid oes yr un o'r pethau a ganlyn, hynny yw—
(a)dileu CCGC,
(b)trosglwyddo, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw swyddogaeth gan y Gorchymyn hwn, nac
(c)trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau gan y Gorchymyn hwn,
yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir cyn i'r dileu, y trosglwyddo, yr addasu, y diddymu neu'r dirymu gael effaith.
(2) Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, gael ei barhau gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.
(3) Mae unrhyw beth a wneir gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr cyn y dyddiad trosglwyddo i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad hwnnw ac wedyn, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad at drosglwyddwr (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at drosglwyddwr) mewn unrhyw ddogfen y mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys iddi, neu sy'n ymwneud ag unrhyw beth y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys iddo, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r darpariaethau hynny, i'w drin fel cyfeiriad at y trosglwyddai.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
3.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan roddwyd swyddogaeth (“yr hen swyddogaeth”) i CCGC gan Ran 7 o Ddeddf 1990 neu unrhyw ddarpariaeth arall a ddiddymir gan y Gorchymyn hwn;
(b)pan roddir swyddogaeth gyfatebol (“y swyddogaeth newydd”) i'r Corff gan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i diwygir gan y Gorchymyn hwn).
(2) Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud mewn perthynas â'r hen swyddogaeth gael ei barhau mewn perthynas â'r swyddogaeth newydd.
(3) Mae unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r hen swyddogaeth yn cael effaith fel pe bai'n cael ei wneud mewn perthynas â'r swyddogaeth newydd, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC) mewn unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r hen swyddogaeth, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
4. Nid yw darpariaethau'r Rhan hon—
(a)yn rhagfarnu unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau penodol;
(b)i gael eu trin fel pe baent yn peri i unrhyw gontract cyflogaeth a wneir gan drosglwyddwr barhau mewn grym.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys