- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
(2) Daw rheoliad 10(2) i rym yn union ar ôl i adran 191(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007(2) ddod i rym.
(3) Daw rheoliad 25(4)(b), (c)(i) a (d) i rym yn union ar ôl i adran 118(3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016(4) a pharagraffau 19 ac 20 o Atodlen 7 iddi ddod i rym.
(4) Daw rheoliad 25(5) i rym yn union ar ôl i adran 120(5) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 8 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
(5) Daw rheoliad 25(6) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 9 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
(6) Daw rheoliad 25(9) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 11 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
(7) Daw rheoliad 25(10) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 12 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
(8) Daw rheoliad 25(11)(a) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 11 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
(9) Daw rheoliad 25(11)(b) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 13(3) o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
(10) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Mae adran 191 yn mewnosod adran 60A yn Neddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28).
Mae adran 118 yn rhoi effaith i Atodlen 7 (tenantiaethau diogel etc.: diddymu tenantiaethau am oes yn raddol).
Mae adran 120 yn rhoi effaith i Atodlen 8 (olynu i denantiaethau diogel a thenantiaethau cysylltiedig).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys