- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
20. Yn Atodlen 1 (casglu ac adrodd am wybodaeth)—
(a)ym mhennawd Rhan 3 (yr wybodaeth sy’n ofynnol gan berchnogion brand, mewnforwyr, dosbarthwyr a darparwyr gwasanaethau)—
(i)ar ôl “berchnogion brand,” mewnosoder “pacwyr/llanwyr,”;
(ii)ar ôl “mewnforwyr”, mewnosoder “neu berchnogion cyntaf yn y DU”;
(b)ym mharagraff 10—
(i)yn is-baragraff (1)—
(aa)ym mharagraff (a), hepgorer y geiriau o “neu, ar gyfer” hyd at y diwedd;
(bb)ar ôl paragraff (a), mewnosoder—
“(aa)pacwyr/llanwyr,”;
(cc)ym mharagraff (b), ar ôl “fewnforwyr” mewnosoder “neu’n berchnogion cyntaf yn y DU”;
(ii)ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—
“(1A) Ni chaiff cynhyrchydd y mae’n ofynnol gan reoliad 17 (rhwymedigaethau adrodd am ddata) iddo adrodd am wybodaeth yn y Rhan hon—
(a)ond adrodd am yr wybodaeth honno mewn perthynas â phecynwaith y mae’r person hwnnw’n gynhyrchydd ar ei gyfer o ddosbarth a restrir yn is-baragraff (1);
(b)adrodd am unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag unrhyw becynwaith nad yw’r cynhyrchydd ond yn cyflawni swyddogaeth gwerthwr neu weithredwr marchnadle ar-lein mewn perthynas ag ef.”;
(iii)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “yr wybodaeth honno” rhodder “yr wybodaeth a nodir ym mharagraffau 11 i 13, 15, 16 a 22”;
(c)ym mharagraff 13—
(i)hepgorer is-baragraff (2);
(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â phecynwaith y trinnir mewnforiwr neu berchennog cyntaf yn y DU fel pe bai’n ei gyflenwi o fewn ystyr rheoliad 10(2);”;
(d)ym mharagraff 16(2)(a), yn lle “, papur a gwellt” rhodder “a phapur”;
(e)ym mharagraff 17, yn is-baragraffau (a) a (b), ar ôl “a 19” mewnosoder “ar gyfer yr holl becynwaith y maent yn gynhyrchydd mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 8(10)”;
(f)ym mharagraffau 18 a 19, yn lle “gan y cynhyrchydd” rhodder “drwy farchnadle ar-lein a weithredir gan y cynhyrchydd”;
(g)ym mharagraff 20—
(i)ar ddiwedd y geiriau agoriadol mewnosoder “ar gyfer yr holl becynwaith y maent yn gynhyrchydd mewn cysylltiad ag ef, neu, ar gyfer yr wybodaeth ym mharagraff 21, yn gynhyrchydd o ddosbarth a bennir yn y paragraff hwnnw”;
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (a) mewnosoder “pan fo’n gymwys”;
(iii)yn lle is-baragraffau (b) ac (c) rhodder—
“(b)i gynhyrchwyr mawr, yr wybodaeth ym mharagraffau 21 a 22, pan fo’n gymwys;”;
(iv)yn is-baragraff (d), yn lle “22(3)” rhodder “22(2) a (3)”;
(h)ym mharagraff 21—
(i)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “becynwaith a” mewnosoder “fewnforir ac yna a”;
(ii)ar ôl is-baragraff (1)(b), mewnosoder—
“(c)yr holl becynwaith y mae’r perchennog yn cymryd perchnogaeth ohono ac wedyn yn ei waredu, pan fydd y cynhyrchydd yn gynhyrchydd cyntaf yn y DU;”;
(iii)yn is-baragraff (2)(b), ar ôl “becynwaith trydyddol” mewnosoder “ac sy’n berchnogion cyntaf yn y DU sy’n cael eu trin fel pe baent yn cyflenwi pecynwaith eilaidd neu becynwaith trydyddol”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys