- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Rhaid i delerau penodi archwilydd meddygol gynnwys telerau, sut bynnag y’u mynegir, sy’n darparu—
(a)bod y penodiad i’w derfynu ar unwaith os bydd yr archwilydd meddygol yn peidio â bod yn ymarferydd meddygol cofrestredig,
(b)y caiff y corff penodi derfynu’r penodiad pan fo o’r farn, ar ôl ystyried unrhyw safonau perfformiad a ddisgwylir gan archwilydd meddygol fel y’u cyhoeddir o bryd i’w gilydd gan yr Archwilydd Meddygol Cenedlaethol, nad yw’r archwilydd meddygol yn addas i fod yn archwilydd meddygol,
(c)ar gais y corff penodi, fod rhaid i’r archwilydd meddygol, pan fo’n rhesymol ymarferol, arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol mewn perthynas ag unrhyw farwolaeth y mae’n ofynnol ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953(1),
(d)bod rhaid i’r archwilydd meddygol, heb oedi afresymol, hysbysu’r corff penodi am unrhyw newidiadau i’w statws fel ymarferydd meddygol cofrestredig, gan gynnwys unrhyw gamau disgyblu y cynigir eu cymryd neu a gymerir yn ei erbyn gan ei gorff rheoleiddio, ac
(e)y caiff y corff penodi derfynu’r penodiad pan fo o’r farn nad yw ymgysylltiad yr archwilydd meddygol ag ymarfer clinigol yn ddigonol i gefnogi’r gwaith o arfer swyddogaethau perthnasol yn barhaus.
(2) Caiff telerau penodi’r archwilydd meddygol gynnwys unrhyw delerau eraill y cytunir arnynt rhwng y corff penodi a’r archwilydd meddygol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys