Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU

Adran 1 - ystyr “awdurdod gwella Cymreig”

2.Mae’r adran hon yn nodi’r cyrff sy’n ‘awdurdodau gwella Cymreig’ at ddibenion y Mesur: cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru; ac awdurdod tân ac achub yng Nghymru. Yn y Nodiadau Esboniadol hyn, mae i gyfeiriadau at “awdurdod / awdurdodau” yr un ystyr ag sydd i awdurdod / awdurdodau gwella Cymreig, oni nodir yn wahanol.

Adran 2 - dyletswydd gyffredinol mewn perthynas â gwella

3.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer eu swyddogaethau (‘y ddyletswydd gyffredinol’).

4.Wrth wneud hynny, rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw penodol i’r angen i wella’r ffordd y mae ei swyddogaethau’n cael eu harfer o ran: effeithiolrwydd strategol; ansawdd gwasanaethau; argaeledd gwasanaethau; tegwch; cynaliadwyedd; effeithlonrwydd; ac arloesi. Mae’r termau hyn wedi’u diffinio yn adran 4 o’r Mesur.

Adran 3 - amcanion gwella

5.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig osod amcanion gwella iddo’i hun a hynny ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Amcanion yw’r rhain ar gyfer gwella’r modd y mae swyddogaethau penodol i’r awdurdod yn cael eu harfer.

6.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i awdurdod gwella Cymreig fod wedi gwneud trefniadau i wireddu’r amcanion hyn.

7.Mae is-adran (3) yn pennu bod rhaid i awdurdod ffurfio pob amcan gwella er mwyn sicrhau gwelliant mewn un o leiaf o’r agweddau ar wella sydd wedi’u rhestru yn yr is-adran honno ac sydd wedi’u diffinio yn adran 4 o’r Mesur.

Adran 4 - agweddau ar wella

8.Mae adran 4 yn diffinio’r agweddau ar wella a gynhwysir yn y Rhan hon o’r Mesur. Mae Adran 4 yn caniatáu i awdurdodau gwella Cymreig ddangos gwelliant mewn amryw o ffyrdd gwahanol. Mae’r adran hon yn creu nifer o wahanol agweddau ar wella a gaiff eu defnyddio i asesu a fu gwelliant ai peidio. Mae rhai agweddau’n ymwneud â gwella darpariaeth gwasanaethau yn unig, er enghraifft bydd awdurdod lleol yn dangos gwelliant o ran ‘argaeledd gwasanaethau’ os bydd yn gwella argaeledd ei wasanaethau. O’i gyferbynnu, byddai gwelliant o ran ‘cynaliadwyedd’ yn cael ei ddangos petai unrhyw rai o swyddogaethau awdurdod lleol (ac nid y rheini sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaeth yn unig) yn cael eu cyflawni mewn modd sy’n cyfrannu at sicrhau datblygu cynaliadwy yn ardal yr awdurdod.

9.Bydd esboniad ar y diffiniadau a sut y byddant yn gweithio yn ymarferol, megis enghreifftiau i’w darlunio ac o dan ba amgylchiadau y gallai’r awdurdodau roi’r agweddau ar wella ar waith, yn cael eu nodi mewn canllawiau.

Adran 5 - Ymgynghori ynghylch yr amcanion gwella

10.Er mwyn bodloni’r ddyletswydd gyffredinol o dan adran 2 a phennu amcanion gwella, mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdod gwella Cymreig i ymgynghori â chynrychiolwyr pobl sy’n perthyn i gategorïau penodedig:

  • trigolion ardal yr awdurdod;

  • y rhai sy’n talu ardrethi annomestig;

  • defnyddwyr gwasanaethau (gan gynnwys felly y rhai nad ydynt yn drigolion megis cymudwyr); a

  • chynrychiolwyr yr ymddengys i’r awdurdod bod ganddynt fuddiant.

Adran 6 - y ddyletswydd gyffredinol, amcanion gwella ac ymgynghori: canllawiau

11.Wrth gyflawni’r dyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(1), 3(2) a 5, rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 7 - gweddau ar wella: diwygio

12.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn a fydd yn diwygio unrhyw rai o’r agweddau ar wella sydd wedi’u nodi yn adran 4(2), neu eu dileu neu ychwanegu atynt. Yn ogystal â hynny, cyn gwneud gorchymyn o’r fath, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unigolion yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau gwella Cymreig ac unrhyw unigolyn arall o’r fath fel y gwelant yn dda.

Adran 8 - dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad

13.Mae adran 8 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi drwy orchymyn ffactorau mewn perfformiad (dangosyddion perfformiad) y caiff perfformiad awdurdod gwella Cymreig ei fesur yn eu herbyn. Hefyd caiff Gweinidogion Cymru bennu safonau perfformiad ar gyfer y dangosyddion perfformiad y maent yn eu gosod. Mae’r adran hon hefyd yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru bennu, drwy orchymyn, ddangosyddion perfformiad a safonau perfformiad gwahanol i awdurdodau gwahanol neu i fathau gwahanol o awdurdodau.

14.Wrth bennu dangosyddion a safonau, ac wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny gwneud hynny, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru anelu at hyrwyddo gwelliant yn y modd y mae’r awdurdod gwella Cymreig yn arfer ei swyddogaethau, ac yn benodol mae’n rhaid iddynt adlewyrchu’r angen am welliant wrth i bob un o’r swyddogaethau hynny gael eu harfer yn nhermau pob un o’r agweddau ar wella sydd wedi’u nodi yn adran 4. Hefyd, cyn pennu dangosyddion perfformiad neu safonau perfformiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, cynrychiolwyr yr awdurdodau gwella Cymreig ac eraill fel y gwelant yn dda.

15.Mae is-adran (7) yn pennu bod rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i arfer ei swyddogaethau fel bod unrhyw safonau perfformiad yn cael eu cyrraedd.

Adran 9- pwerau cydlafurio

16.Mae’r adran hon yn rhoi pwerau bras i awdurdodau gwella Cymreig i’w galluogi i gydlafurio â’i gilydd ac â chyrff eraill, er mwyn cyflawni’r dyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) neu er mwyn hwyluso gwaith i gyflawni’r dyletswyddau hynny. Mae Adran 9 yn caniatáu i awdurdod gydlafurio ag awdurdod arall er mwyn hwyluso cyflawni dyletswyddau’r awdurdod arall, p’un ai y byddai hynny’n hwyluso cyflawni ei ddyletswyddau ei hun ai peidio.

17.Er bod y Mesur yn rhoi’r un pwerau i bob math o awdurdod sy’n dod o dan y Mesur, nid yw’n rhoi pŵer na gorfodaeth ar gyrff eraill i gydlafurio ag awdurdod gwella Cymreig. Serch hynny, mae’n bosibl y bydd llawer o gyrff o’r fath yn gallu gwneud hynny o dan y pwerau sydd ganddynt eisoes. Mae’r adran hon yn sicrhau bod gan y tri math o awdurdodau gwella Cymreig bwerau cyfatebol.

18.Mae is-adran (3) yn darparu nad yw’r pwerau newydd hyn yn effeithio ar unrhyw rai o bwerau unrhyw awdurdod gwella Cymreig mewn deddfwriaeth arall.

Adran 10 - awdurdodau tân ac achub: pwerau dirprwyo.

19.Mae adran 10 yn rhoi pŵer i ddirprwyo’u swyddogaethau i awdurdodau tân ac achub. Mae’r pŵer hwn yn gysylltiedig â’r pŵer sydd gan awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol eisoes o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae adran 10 felly yn sicrhau bod gan yr awdurdodau tân ac achub yr un pŵer ag sydd gan yr awdurdodau Parciau Cenedlaethol a’r awdurdodau lleol o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i gyflawni’r dyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) neu i hwyluso gwaith i gyflawni’r dyletswyddau hynny.

Adran 11 - ystyr “pwerau cydlafurio”

20.Mae adran 11 yn nodi’r hyn a olygir wrth ‘bwerau cydlafurio’ awdurdod gwella Cymreig, sy’n cynnwys pwerau mewn deddfwriaeth arall a’r rhai sy’n cael eu rhoi gan y Mesur.

Adran 12 - dyletswyddau mewn perthynas â phwerau cydlafurio

21.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig ystyried a fyddai’r pwerau cydlafurio yn ei helpu i gyflawni’r dyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7). Os yw’n credu y byddent yn helpu, yna mae’n rhaid i’r awdurdod gwella Cymreig geisio arfer y pwerau cydlafurio.

Adran 13 - casglu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â pherfformiad

22.Mae Adran 13 yn cyfeirio at gasglu gwybodaeth am berfformiad. Yn ystod pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i gasglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo asesu ei berfformiad wrth wireddu ei amcanion gwella. Rhaid hefyd i’r awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i gasglu gwybodaeth a fyddai’n caniatáu iddo fesur ei berfformiad yn erbyn dangosyddion neu safonau perfformiad a bennid gan Weinidogion Cymru ac unrhyw ddangosyddion neu safonau eraill y byddai’n dewis eu defnyddio (‘dangosyddion a safonau hunanosodedig’).

Adran 14 - defnyddio gwybodaeth am berfformiad

23.Mae adran 14 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig ddefnyddio’r wybodaeth y mae’n ei chasglu o dan adran 13 i fesur ei berfformiad yn erbyn perfformiad blwyddyn flaenorol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig gymharu ei berfformiad cyn belled ag y bo’n ymarferol â pherfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac â pherfformiad awdurdodau cyhoeddus eraill.

24.Yn ychwanegol, mae’n rhaid i awdurdod gwella Cymreig ddefnyddio’r wybodaeth y mae’n ei chasglu i asesu a allai wella ar ei berfformiad, ac, ar sail hynny, rhaid iddo benderfynu ar gamau i’w cymryd i wella’i berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau.

25.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru am eu dyletswyddau o dan adrannau 13 a 14.

Adran 15 - cynllunio gwelliannau a chyhoeddi gwybodaeth am welliannau

26.Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i gyhoeddi gwybodaeth benodedig am ei berfformiad.

27.Mae’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar gyfer blwyddyn ariannol yn cynnwys:

  • asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 2;

  • asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol o ran gwireddu ei amcanion gwella;

  • asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol o ran bodloni dangosyddion a safonau perfformiad lleol a bennwyd gan Weinidogion Cymru a dangosyddion a safonau hunanosodedig;

  • asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol o’i gymharu â pherfformiad blwyddyn flaenorol;

  • asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol ac mewn blynyddoedd blaenorol o’i gymharu â pherfformiad awdurdod gwella Cymreig arall;

  • manylion sut mae wedi arfer ei bwerau cydlafurio; a

  • manylion yr wybodaeth a gasglwyd o dan adran 13 a’r hyn y mae’r awdurdod wedi’i wneud i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 14.

28.Dylai’r wybodaeth gael ei chyhoeddi gan yr awdurdod perthnasol cyn 31 Hydref yn union ar ôl y flwyddyn ariannol y mae’n cyfeirio ati.

29.O dan yr adran hon mae’n rhaid i awdurdod gwella Cymreig sicrhau ei fod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad sy’n ymwneud ag arolygiad arbennig.

30.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig gyhoeddi ‘cynllun gwella’ sy’n nodi ei gynlluniau ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) ar gyfer blwyddyn ariannol ac, os yw’n briodol, ar gyfer blynyddoedd dilynol. Rhaid iddo gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n cyfeirio ati.

31.Mae adran 15(8) yn darparu bod rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru am yr adran hon.

Adran 16 - ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”

32.Mae adran 16 yn rhestru’r rheoleiddwyr perthnasol a’u swyddogaethau perthnasol. Mae’n rhoi pŵer hefyd i Weinidogion Cymru newid y rhestr drwy orchymyn.

33.Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdodau gwella Cymreig, Archwilydd Cyffredinol Cymru a chyrff rheoleiddio perthnasol cyn defnyddio’r pŵer i wneud gorchymyn.

34.Mae’n bosibl y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer hwn i ychwanegu corff rheoleiddio nad yw’n bod eto. Ni fyddai’r ddyletswydd i ymgynghori yn gweithio o dan amgylchiadau o’r fath am na all Gweinidogion Cymru ymgynghori â chorff nad yw’n bod. Mae is-adran (6) yn delio ag achos o’r fath drwy ddiddymu’r ddyletswydd i ymgynghori â chorff rheoleiddio newydd o dan yr amgylchiadau hynny.

Adran 17 - gwybodaeth am welliannau a chynllunio ar gyfer gwella: archwilio

35.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliad i asesu a yw awdurdod gwella Cymreig wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15 o’r Mesur ac wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau sydd wedi'u dyroddi gan Weinidogion Cymru o dan yr adran honno.

Adran 18 - asesiadau gwella

36.Mae adran 18 yn gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal asesiad sy’n edrych ymlaen ac sy’n nodi i ba raddau y mae awdurdod gwella Cymreig yn debyg o fodloni gofynion Rhan 1 o’r Mesur yn y flwyddyn honno. O dan yr adran hon, gall Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad sy’n cwmpasu mwy na blwyddyn os dymuna. Wrth gynnal yr asesiad, byddai disgwyl i’r Archwilydd Cyffredinol gymryd i ystyriaeth wybodaeth a dogfennau perthnasol a dderbyniwyd gan reoleiddwyr ac arolygwyr eraill o dan adran 33.

Adran 19 - adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu

37.Mae adran 19 yn gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynhyrchu adroddiad neu adroddiadau ar bob awdurdod gwella Cymreig mewn perthynas â’i ddyletswyddau o dan adrannau 17 a 18.

Dylai’r adroddiad neu’r adroddiadau:

  • ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal yr archwiliad o dan adran 17;

  • datgan a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r archwiliad, yn credu bod yr awdurdod wddi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15 ac wedi gweithredu yn unol â’r canllawiau;

  • ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal yr asesiad o dan adran 18;

  • esbonio sut y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi defnyddio’r wybodaeth a dderbyniodd gan gyrff rheoleiddio eraill o dan adran 33 at ddibenion cynnal asesiad o’r gwelliant a wnaed gan awdurdod o dan adran 18;

  • datgan a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r asesiad, yn credu bod yr awdurdod yn debyg o gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o’r Mesur hwn;

  • argymell (os yw’n briodol) unrhyw gamau y dylai’r awdurdod eu cymryd er mewn cyflawni ei ddyletswyddau neu weithredu yn unol â’r canllawiau;

  • argymell (os yw’n briodol) y dylai Gweinidogion Cymru roi cymorth o dan adran 29 neu gyfarwyddyd o dan adran 30; a

  • datgan a yw’r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cynnal arolygiad arbennig o dan adran 22.

38.Dylai copïau o’r adroddiadau gael eu hanfon at yr awdurdod gwella Cymreig perthnasol ac at Weinidogion Cymru erbyn 30 Tachwedd bob blwyddyn. Caiff Gweinidogion Cymru newid y dyddiad hwn drwy orchymyn (is-adran (3)).

39.Yn ogystal â hynny, mae is-adran (4) yn delio â’r amgylchiadau hynny lle byddai’n afresymol neu’n anymarferol i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad ar awdurdod penodol erbyn 30 Tachwedd neu, lle y gwnaed gorchymyn o dan is-adran (3), erbyn y dyddiad a bennwyd yn y gorchymyn. Mae’n rhoi i Archwilydd Cyffredinol Cymru yr hyblygrwydd i ofyn i Weinidogion Cymru am estyniad i gwblhau’r adroddiadau archwilio ac asesu ar gyfer un o’r awdurdodau a enwyd neu ragor (heb fod angen gorchymyn).

40.Caiff yr adroddiad neu’r adroddiadau o dan adran 19 gynnwys argymhellion i’r awdurdod am sut y dylai gydymffurfio â’r gofynion yn y rhan hon a’r hyn y dylai ei wneud i weithredu yn unol â’r canllawiau.

Adran 20 – Ymateb i adroddiadau adran 19

41.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod ymateb i adroddiad neu adroddiadau gan yr Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 19 os yw’n cynnwys:

  • argymhelliad i’r awdurdod am y camau y dylai eu cymryd i gydymffurfio â’r gofynion yn y rhan hon o’r Mesur ;

  • datganiad bod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn bwriadu cynnal arolygiad arbennig; neu

  • argymhelliad i Weinidogion Cymru y dylent ddefnyddio’u pwerau cynorthwyo neu eu pwerau ymyrryd .

42.Rhaid hefyd i’r awdurdod baratoi datganiad sy’n nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd a’r amserlen ar gyfer gwneud hynny. Rhaid hefyd i’r awdurdod gynnwys y datganiad yn y cynllun gwella ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Os yw adroddiad yn cynnwys argymhelliad y dylai Gweinidogion Cymru defnyddio’r pŵer ymyrryd yn adran 29, rhaid hefyd i’r awdurdod anfon copi o’i ddatganiad at Weinidogion Cymru o fewn 30 diwrnod gwaith.

Adran 21 - arolygiadau arbennig

43.Mae adran 21 yn caniatáu i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad arbennig o awdurdod gwella Cymreig.

44.Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad o’r fath os yw’r Archwilydd Cyffredinol neu unrhyw rai o’r rheoleiddwyr perthnasol yn credu y gallai awdurdod perthnasol fethu cydymffurfio â’r gofynion yn y rhan hon.

45.Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu cynnal arolygiad arbennig.

46.Mae is-adran (4) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad arbennig, ond cyn gwneud hynny mae’n rhaid iddynt ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Adran 22 - adroddiadau am arolygiadau arbennig

47.Mae adran 22 yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynhyrchu adroddiad ar bob arolygiad arbennig y bydd yn ei gynnal. Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru grybwyll yn yr adroddiad a yw’n credu o ganlyniad i’r arolygiad arbennig fod yr awdurdod gwella Cymreig yn methu â chydymffurfio â gofynion Rhan 1 o’r Mesur. Mae hefyd yn cael argymell y dylai Gweinidogion Cymru ddefnyddio’u pwerau cynorthwyo neu eu pwerau cyfarwyddo yn adrannau 28-29 o’r Mesur.

48.Dylai copi o’r adroddiad gael ei anfon at yr awdurdod gwella Cymreig a arolygwyd ac at Weinidogion Cymru.

49.Mae adran 22 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru anfon adroddiadau yn ymwneud â swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â budd-daliadau at yr Ysgrifennydd Gwladol (dros Waith a Phensiynau).

Adran 23 - cydlynu archwiliad etc

50.Mae adran 23 yn gosod dyletswydd ar yr holl reoleiddwyr perthnasol i roi sylw i gydlynu wrth arfer swyddogaethau rheoleiddio. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghori â’r rheoleiddwyr perthnasol a llunio amserlen ar gyfer rheoleiddio ac arolygu pob awdurdod. Yna rhaid i’r holl reoleiddwyr perthnasol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru gymryd pob cam rhesymol i gadw at yr amserlen.

Adran 24 - adroddiadau gwella blynyddol

51.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynhyrchu a chyhoeddi bob blwyddyn adroddiad gwella blynyddol ar gyfer pob awdurdod gwella Cymreig. Rhaid i’r adroddiad gynnwys crynodeb o ganlyniadau unrhyw adroddiad a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 22 o’r Mesur. Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried yng ngoleuni’r adroddiad a ddylid:

  • argymell i reolydd perthnasol sut y dylai arfer ei swyddogaethau;

  • argymell y dylai Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan adran 28 ac adran 29; neu

  • arfer unrhyw rai o’i swyddogaethau mewn perthynas â’r awdurdod.

Adran 25 - datganiad o arfer

52.O dan adran 25 mae’n rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynhyrchu datganiad sy’n nodi sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 17, 18, 19, 23 a 24 o’r Mesur. Dylai’r datganiad gael ei adolygu’n barhaus a rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn cael ei gyhoeddi a chyn i unrhyw ddiwygiadau iddo gael eu cyhoeddi.

Adran 26 - pwerau a dyletswyddau arolygwyr

53.Mae adran 26 yn nodi pwerau a dyletswyddau arolygydd wrth gynnal archwiliad o dan adran 17, asesiad o dan adran 18 neu arolygiad arbennig o dan adran 21 o’r Mesur. Mae’n rhoi hawliau i’r arolygydd fynd i fangreoedd a gweld dogfennau, sef hawliau sy’n debyg i’r rhai sydd gan yr Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999.

Adran 27 – ffioedd

54.Mae adran 27 yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru osod graddfa neu raddfeydd ffioedd am gynnal archwiliadau, asesiadau ac arolygiadau arbennig. Bydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ddisgresiwn i godi ffi sy’n wahanol i’r raddfa osod os bydd y gwaith ar gyfer archwiliad, asesiad neu arolygiad arbennig yn fwy neu’n llai na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Cyn pennu graddfa ffioedd, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghori â Gweinidogion Cymru a chynrychiolwyr awdurdodau gwella Cymreig.

55.Mae’r adran hon hefyd yn sicrhau bod y ffioedd y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn eu codi o dan y Mesur hwn yn cael eu trin yr un fath â’r ffioedd y bydd yn eu codi at ddibenion eraill.

Adran 28 - gweinidogion Cymru: cymorth i awdurdodau gwella Cymreig

56.Mae adran 28 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn credu ei fod yn debyg o helpu awdurdod gwella Cymreig i gydymffurfio â’r gofynion yn y rhan hon o’r Mesur. Un bras yw’r pŵer hwn am ei bod yn amhosibl pennu’n fanwl-gywir holl ffurfiau posibl cymorth o’r fath. Er hynny, nid yw Gweinidogion Cymru yn cael defnyddio’r pŵer er mwyn cyfarwyddo awdurdod na neb arall: i wneud hynny, byddai angen iddynt ddefnyddio’r pwerau yn adran 29, sef pwerau sy’n destun amodau. O dan yr adran hon mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod gwella Cymreig perthnasol cyn rhoi cymorth oni bai y bydd yr awdurdod perthnasol wedi gofyn am gymorth o’r fath. Mae Adran 28 hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phobl yr ymddengys eu bod yn ‘rhanddeiliaid allweddol’ yr effeithir arnynt o ganlyniad i arfer y pwerau yn is-adran (1).

Adran 29 - gweinidogion Cymru: pwerau cyfarwyddo etc

57.Mae adran 29 yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru ymyrryd mewn awdurdod lleol sy’n methu â chydymffurfio â’r Mesur neu sydd mewn perygl o wneud hynny, a rhoi cyfarwyddiadau iddo. Dim ond o dan yr amodau canlynol y caniateir i’r pŵer hwn gael ei arfer:

  • os yw’r awdurdod gwella Cymreig wedi cael cymorth o dan adran 28, ond bod hynny heb gywiro’r broblem; neu

  • os yw’r awdurdod gwella Cymreig yn methu neu’n debyg o fethu â chydymffurfio â gofynion y rhan hon o’r Mesur a bod brys y sefyllfa a/neu ddifrifoldeb y sefyllfa yn atal cymorth rhag cael ei gynnig;

  • os yw’r awdurdod gwella Cymreig yn methu neu’n debyg o fethu cydymffurfio â gofynion y rhan hon o’r Mesur, os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ei bod yn dymuno arfer y pŵer cynorthwyo o dan adran 28, ond na ellir ei arfer am fod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â Gweinidogion Cymru

58.Yna mae’r dewisiadau sy’n agored i Weinidogion Cymru fel y maent wedi’u nodi yn isadrannau (2) i (6). Mae’r rhain yn debyg i’r pwerau presennol yn adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Serch hynny, mae’r pŵer yn mynd y tu hwnt i bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Llywodraeth Leol 1999 a hynny am ei fod yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod i gydlafurio ag awdurdod arall (is-adran (2c)).

Adran 30 - pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio

59.Mae adran 30 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod gwella Cymreig nad yw ei hun yn methu (nac mewn perygl o fethu) i gydlafurio ag un sy’n methu neu sydd mewn perygl o fethu. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod cyntaf cyn rhoi’r cyfarwyddyd. Diben hyn yw sicrhau y byddai Gweinidogion Cymru yn cael cyfarwyddo awdurdod B i gydlafurio, pe gallai gwendid yn awdurdod A gael sylw drwy ei gael ei gydlafurio ag awdurdod B (a fyddai heb wendidau o’r fath), ond y byddai’n rhaid iddynt ymgynghori ag awdurdod B cyn rhoi unrhyw gyfarwyddyd.

Adran 31 - pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd

60.Mae adran 31 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (drwy orchymyn) wneud darpariaeth i addasu neu i atal deddfiadau sy’n gymwys i awdurdodau gwella Cymreig. Dim ond os ydynt wedi’u bodloni bod y deddfiad yn atal neu’n rhwystro awdurdod gwella Cymreig rhag cydymffurfio â darpariaethau Rhan 1 o’r Mesur y caiff Gweinidogion Cymru wneud hyn.

61.Mae gan Weinidogion Cymru bŵer hefyd i roi unrhyw bŵer ychwanegol i awdurdod gwella Cymreig y maent yn credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso cydymffurfio â Rhan 1 o’r Mesur.

62.Wrth arfer pŵer a roddir iddo, rhaid i awdurdod gwella Cymreig gymryd i ystyriaeth unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 32 - gorchmynion o dan adran 31: y weithdrefn

63.Mae adran 32 yn disgrifio’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru eu dilyn wrth wneud gorchymyn o dan adran 31. Oni bai bod gorchymyn o’r fath yn diwygio gorchymyn sydd eisoes yn bod a dim byd arall, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw awdurdodau neu bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau y bydd eu cynigion yn effeithio arnynt. Mae’n rhaid hefyd iddynt osod dogfen gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i esbonio’u cynigion am o leiaf 60 diwrnod (heb gynnwys cyfnodau pan fo’r Cynulliad ar doriad) cyn i’r Cynullid ystyried y gorchymyn drafft. Mae’r gofynion hyn yn ychwanegol at y rheidrwydd i’r gorchymyn fynd fel rheol drwy’r weithdrefn gadarnhaol yn unol â gofynion adran 50.

Adran 33 - rhannu gwybodaeth

64.Mae adran 33 yn ei gwneud hi’n ddyletswydd o’r ddwy ochr i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r cyrff rheoleiddio perthnasol roi i’w gilydd wybodaeth a fyddai’n eu cynorthwyo wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny a ddisgrifir yn is-adran (4).

Adran 34 - y modd y mae gwybodaeth i’w defnyddio gan reoleiddwyr

65.Mae’r modd y bydd gwybodaeth a gesglir gan y rheoleiddwyr perthnasol wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol yn cael ei defnyddio wedi’i gyfyngu gan ddeddfwriaeth arall. Mae adran 34 yn caniatáu i’r rheoleiddwyr ddefnyddio unrhyw wybodaeth a dogfennau perthnasol a gyflwynir iddynt neu a sicrheir ganddynt er mwyn arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

Adran 35 - rhan 1: Dehongli

66.Mae’r adran hon yn diffinio nifer o dermau sy’n cael eu defnyddio yn Rhan 1.

Adran 36 - cyllid

67.Mae adran 36 yn diwygio adran 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae’r adran hon yn sicrhau y caiff arian Gweinidogion Cymru i Archwilydd Cyffredinol Cymru gymryd i ystyriaeth wariant sy’n codi o dan y Mesur hwn.

Adran 37 - cynllunio Cymunedol

68.Mae adran 37 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gychwyn cynllun cymunedol i’w hardal, ei gynnal, ei hwyluso a chymryd rhan ynddo.

69.Mae’r adran yn diffinio cynllunio cymunedol fel proses y mae awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol yn ei defnyddio i nodi amcanion hirdymor ar gyfer gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac economaidd ardal yr awdurdod lleol a hefyd i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.

70.Mae’r diffiniad o gynllunio cymunedol hefyd yn cynnwys dod o hyd i’r camau sydd i’w cymryd a’r swyddogaethau sydd i’w harfer er mwyn gwireddu’r amcanion hirdymor.

71.Mae adran 37 hefyd yn gosod dyletswydd ar bartneriaid cynllunio cymunedol:

  • i gymryd rhan mewn cynlluniau cymunedol;

  • i helpu’r awdurdod lleol wrth gyflawni dyletswyddau’r awdurdod lleol.

Adran 38 - ystyr “partneriaid cynllunio cymunedol”

72.Mae adran 38 yn rhestru’r cyrff cyhoeddus a ddiffinnir o dan Ran 2 o’r Mesur fel ‘partneriaid cynllunio cymunedol’, sef: cynghorau cymuned ; awdurdodau tân ac achub; Byrddau Iechyd Lleol; Ymddiriedolaethau GIG; awdurdodau Parciau Cenedlaethol; awdurdodau heddlu; a phrif gwnstabl heddlu ardal yr awdurdod heddlu.

73.Mae is-adran (1)(ch) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu drwy gyfarwyddyd pa Ymddiriedolaethau GIG sy’n bartneriaid cynllunio cymunedol i awdurdodau lleol penodol. Mae angen gwneud hyn am nad yw ffiniau Ymddiriedolaethau GIG yn cyd-fynd â ffiniau’r awdurdodau lleol.

74.O dan adran 38 mae gan Weinidogion Cymru bŵer, drwy orchymyn, i ddiwygio, ychwanegu neu hepgor cyrff o’r rhai sydd wedi’u rhestru fel partneriaid cynllunio cymunedol. Dim ond ar ôl ymgynghori â’r corff o dan sylw, ac â chynrychiolwyr i’r awdurdod neu’r awdurdodau lleol a fyddai’n cydweithredu ag ef y caniateir i orchymyn o’r fath gael ei wneud.

75.Ni chaniateir i orchymyn sy’n cael ei wneud o dan yr adran hon ddynodi person nad oes ganddo swyddogaethau o natur gyhoeddus yn bartner cynllunio cymunedol.

Adran 39 - llunio strategaeth gymunedol

76.Pan fydd awdurdod lleol a phartneriaid cynllunio cymunedol wedi dod i gonsensws o ran amcanion y strategaeth gymunedol a chamau i’w cymryd, mae’r adran hon yn pennu bod rhaid i awdurdod lleol gynhyrchu dogfen (a elwir yn strategaeth gymunedol yn y Mesur) sy’n disgrifio’r consensws hwnnw.

77.Rhaid i’r strategaeth gymunedol gynnwys amcanion priodol, a chamau i wireddu’r amcanion hynny.

78.Rhaid i’r strategaeth gymunedol gael ei chynhyrchu a’i chyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r consensws rhwng yr awdurdod lleol a’r partneriaid cynllunio cymunedol gael ei gyrraedd.

Adran 40 - strategaethau cymunedol: dyletswydd adolygu

79.Mae adran 40 yn pennu y dylai strategaeth gymunedol gael ei hadolygu gan yr awdurdod lleol a’i bartneriaid cynllunio cymunedol o leiaf bob pedair blynedd.

Adran 41 - adolygiadau o strategaeth gymunedol

80.Dylai strategaeth gymunedol gael ei hadolygu er mwyn ystyried i ba raddau y mae’r amcanion wedi’u gwireddu, ac os nad ydynt wedi’u gwireddu pa gynnydd sydd wedi’i wneud tuag at hynny.

81.Yng ngoleuni’r adolygiad hwn, mae’n bosibl y bydd yr awdurdod lleol a’i bartneriaid cynllunio cymunedol o’r farn ei bod yn briodol diwygio’r amcanion cymunedol a’r camau neu gytuno ar rai newydd. Pan fydd consensws wedi’i gyrraedd, dylai’r awdurdod lleol ddiwygio’r strategaeth gymunedol a’i hailgyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Adran 42 - strategaethau cymunedol: monitro

82.Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a’i bartneriaid cynllunio cymunedol wneud trefniadau ar gyfer monitro’r cynnydd sydd wedi’i wneud ynglŷn â gwireddu amcanion y strategaeth gymunedol a’r camau sy’n gysylltiedig â hynny.

83.Mae adran 42 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gyhoeddi datganiad o leiaf bob dwy flynedd ar y cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at fodloni amcanion y strategaeth gymunedol ac ar gymryd y camau sydd wedi’u priodoli i’r amrywiol gyrff cynllunio cymunedol.

Adran 43 - strategaethau cymunedol: gweithredu

84.Pan fo’r strategaeth gymunedol yn pennu cam i’w gymryd neu swyddogaeth i’w harfer gan yr awdurdod lleol neu ei bartneriaid cynllunio cymunedol, mae’r adran hon yn pennu wedyn fod rhaid iddo wneud popeth sy’n rhesymol er mwyn cymryd y cam neu i arfer y swyddogaeth yn unol â’r strategaeth gymunedol.

Adran 44 - cynllunio cymunedol etc: cyfraniad y gymuned

85.Mae adran 44 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a’i bartneriaid cynllunio cymunedol wneud trefniadau i gynnwys y canlynol a chymryd eu barn i ystyriaeth:

  • trigolion lleol;

  • rhai nad ydynt yn drigolion lleol ond sy’n cael gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod neu gan un o’i bartneriaid cynllunio cymunedol;

  • cynrychiolwyr cyrff gwirfoddol;

  • cynrychiolwyr buddiannau busnes; ac

  • unrhyw un arall sydd ym marn yr awdurdod yn ymddiddori mewn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol yr ardal

mewn cysylltiad â chynllunio cymunedol, paratoi strategaeth gymunedol ac adolygu strategaeth gymunedol.

Adran 45 - cynllunio cymunedol etc: canllawiau

86.Mae adran 45 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar y canlynol:

  • proses cynllunio cymunedol;

  • cynhyrchu ac adolygu strategaeth gymunedol; a’r

  • dyletswyddau yn adrannau 42 i 44.

87.Mae’r adran hon hefyd yn pennu bod rhaid i awdurdod lleol a’i bartneriaid cynllunio cymunedol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

Adran 46 - cynllunio cymunedol etc: rôl Gweinidogion Cymru

88.Mae Adran 46 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hybu a hyrwyddo cynllunio cymunedol wrth arfer swyddogaeth a allai effeithio ar gynllunio cymunedol cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol iddynt wneud hynny.

Adran 47 - rhan 2: dehongli

89.Mae’r adran hon yn diffinio nifer o dermau sy’n cael eu defnyddio yn Rhan 2.

Adran 48 - canllawiau

Mae nifer o ddarpariaethau yn y Mesur yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau. Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau gwahanol i gyrff gwahanol, gan ganiatáu hyblygrwydd felly.  Mae adran 48 hefyd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn dyroddi canllawiau, ymgynghori â’r awdurdod neu’r partïon o dan sylw neu’r rhai y mae’n ymddangos eu bod yn ei gynrychioli. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r holl ganllawiau o’r fath.

Adran 49 - cyfarwyddiadau

90.Mae sawl darpariaeth yn y Mesur yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i gorff sydd wedi’i enwi. Mae adran 49 yn caniatáu i Weinidogion Cymru amrywio neu ddirymu unrhyw gyfarwyddyd drwy roi cyfarwyddyd dilynol, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i bob cyfarwyddyd fod yn ysgrifenedig.

Adran 50 - gorchmynion a rheoliadau

91.Mae’r adran hon yn darparu i orchmynion a rheoliadau o dan y Mesur gael eu gwneud drwy offeryn statudol ac mae’n nodi gweithdrefnau’r Cynulliad mewn perthynas â’r offerynnau hynny.

Adran 51 - diwygiadau canlyniadol etc a darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed

92.Mae pŵer yn cael ei roi i Weinidogion Cymru fynd ati, drwy orchymyn, i ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfiadau er mwyn gwneud diwygiadau canlyniadol.

93.Mae Atodlen 1 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 1 o’r Mesur.

94.Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 2 o’r Mesur. Er enghraifft, mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol ystyried strategaethau cymunedol a gyhoeddwyd o dan y Mesur (ac nid, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, y rheini a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) wrth lunio eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

95.Mae Atodlen 2A yn cynnwys darpariaethau trosiannol i gadw strategaethau cymunedol a luniwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 hyd nes y bydd awdurdodau lleol wedi llunio strategaethau newydd o dan y Mesur. Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol barhau i roi ystyriaeth i’w ‘hen’ strategaethau cymunedol hyd nes y bydd y rhai newydd wedi’u cyhoeddi o dan y Mesur.

Adran 52 - diddymiadau

96.Mae Atodlen 3 yn cynnwys diddymiadau gan gynnwys, yn benodol, Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth leol 1999 i’r graddau y mae’n ymwneud ag awdurdodau gwella Cymreig.

Adran 53 - cychwyn

97.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cychwyn y Mesur. Yn gyffredinol, bydd darpariaethau’r Mesur yn dod i rym drwy orchymyn a fydd yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru.

Adran 54 - teitl byr

98.Mae’r adran hon yn pennu mai ‘Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009’ yw teitl y Mesur.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources