Adran 17 – Treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliad
79.Mae is-adran (1) yn gwneud darpariaeth i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i dreialu, am gyfnod o hyd at 40 mis, hawliau a roddir i blentyn o dan y Mesur hwn.
80.Mae is-adran (2) yn pennu y caiff rheoliadau a wnaed o dan is-adran (1) wneud darpariaeth:
mai dim ond i blant y mae awdurdodau addysg lleol penodedig yn gyfrifol amdanynt y mae hawliau a roddir i blentyn gan y Mesur hwn mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig i fod yn gymwys;
mai dim ond i awdurdodau addysg lleol penodedig y mae dyletswyddau a roddir ar awdurdodau addysg lleol gan y Mesur hwn mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig i fod yn gymwys;
mai dim ond i gorff sy’n gyfrifol am ysgol mewn ardaloedd penodedig y mae hawliau a roddir i berson gan y Mesur hwn mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd i fod yn gymwys; ac
mai dim ond i awdurdodau addysg lleol penodedig y mae dyletswyddau a roddir ar awdurdod addysg lleol gan y Mesur hwn mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd i fod yn gymwys.
81.Mae is-adran (2) hefyd yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth i adroddiadau neu wybodaeth arall ar weithredu’r treialu gael eu darparu neu ei darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru.
82.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod adroddiad ar sut y gweithredwyd y cynllun treialu ac ar ba mor effeithiol oedd y cynllun treialu o ran hyrwyddo llesiant plant.
83.Mae is-adran (4) yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod adroddiad o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod treialu a nodir yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ar yr amod fod 12 mis o’r cyfnod treialu wedi mynd heibio.
84.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad o dan is-adran (3) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 30 mis i ddyfodiad y rheoliadau o dan is-adran (1) i rym.