Cyffredinol
Adran 23 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
92.Mae’r adran hon yn rhoi ei heffaith i’r Atodlen sy’n cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol yn yr i’r Mesur.
Adran 24 – Gorchmynion a rheoliadau
93.Mae is-adran (1) yn darparu bod unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Mesur yn arferadwy drwy offeryn statudol.
94.Mae is-adran (2) yn pennu bod unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur yn cynnwys pŵer i wneud gofynion gwahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol, i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu ar gyfer achosion penodol, ac i wneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, darfodol, trosiannol neu arbed.
95.Mae is-adran (3) yn darparu y bydd rheoliadau sy’n caniatáu treialu’r hawliau a roddir i blentyn o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol.
96.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i unrhyw orchymyn, sy’n arfer y pwerau a roddwyd gan adran 18 neu 20 i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r Mesur, gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Adran 25 – Gorchmynion a wnaed o dan adran 18: gweithdrefn
97.Mae’r adran hon yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gorchmynion a wnaed o dan adran 18 o’r Mesur. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth wneud gorchymyn o dan adran 18, ymgynghori â phersonau â buddiant yr effeithir arnynt gan y cynigion, gan roi ystyriaeth i’r canfyddiadau yn yr adroddiad treialu ac ystyried unrhyw gynrychiolaeth a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Adran 26 – Cychwyn
98.Yn yr adran hon nodir y trefniadau ar gyfer cychwyn y Mesur mewn perthynas ag adrannau 24, 25, 26 a 27 a pharagraffau 10 i 12 o’r Atodlen. Mae holl ddarpariaethau eraill y Mesur sy’n weddill yn dod i rym pan gânt eu cychwyn gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Adran 27 – Enw byr
99.Mae’r adran hon yn cadarnhau mai enw’r Mesur yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.