Cyflwyniad
1.Ar gyfer Mesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur ”) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) ar 22 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor ar 10 Mai 2011 y mae'r Nodiadau Esboniadol hyn. Fe'u paratowyd gan Gyfarwyddiaeth Tai Llywodraeth Cynulliad Cymru i fod o gymorth i ddeall y Mesur. Nid ydynt yn rhan o'r Mesur ac ni chawsant eu cymeradwyo gan y Cynulliad. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ochr yn ochr â'r Mesur. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r Mesur. Os ymddengys, felly, nad oes angen unrhyw esboniad ar adran neu ran o adran, nis rhoddir.
2.Mae Rhan 1 o'r Mesur yn caniatáu i awdurdod tai lleol (“yr awdurdod”) wneud cais i Weinidogion Cymru i atal dros dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig ar gyfer y cyfan neu ran o ardal yr awdurdod, am gyfnod o hyd at 5 mlynedd i ddechrau a chaiff yr awdurdod wneud cais am estyniad i'r cyfnod hwnnw. Mae cymhwystra'r Cynulliad i ddeddfu ar y mater hwn i'w ganfod ym Mater 11.5 o Faes 11 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“DLlC 2006”). Mewnosodwyd Mater 11.5 ym Maes 11 o Atodlen 5 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) a wnaed ar 21 Gorffennaf 2010.
3.Mae Rhan 2 o’r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru bwerau rheoleiddiol ehangach a phwerau i ymyrryd ynghylch darparu tai gan Landlordiaid Cymdeithasol cofrestredig. Mae cymhwysedd y Cynulliad i Ddeddfu ar y mater hwn i’w ganfod ym Materion 11.2 ac 11.3 o Faes 11 o Atodlen 5 i DLlC 2006 Mewnosodwyd Materion 11.2 ac 11.3 ym Maes 11 o Atodlen 5 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010.
4.Mae 3 Rhan i’r Mesur, sef:
Rhan 1: Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig
Pennod 1: Cyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig
Pennod 2: Amrywio Cyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig
Pennod 3: Estyn Cyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig
Pennod 4: Dirymu Cyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig
Pennod 5: Ceisiadau: Darpariaethau Cyffredinol
Pennod 6: Diwygiadau i Ddeddf Tai 1985
Pennod 7: Amrywiol
Rhan 2: Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Pennod 1; Perfformiad
Pennod 2: Ymgymeriadau Gwirfoddol
Pennod 3: Rheoleiddio
Pennod 4: Gorfodi
Pennod 5: Darpariaethau Amrywiol a Chyffredinol
Rhan 3: Darpariaethau Atodol a Darpariaethau Terfynol
Rhoddir isod esboniad ar bob Rhan yn ei thro.