Adran 46 - Pwerau arolygydd i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau gael eu darparu neu i wybodaeth gael ei darparu
99.Mae adran 46 yn mewnosod paragraff 19E newydd yn Atodlen 1 o Ddeddf 1996. Mae'r paragraff hwn yn pennu'r pwerau a roddir i arolygydd i'w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu i wybodaeth gael eu darparu iddo.
100.Mae is-baragraff (1) o'r paragraff 19E newydd yn caniatáu i arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu iddo ddogfennau penodol neu wybodaeth benodol. Mae is-baragraffau (2) a (3) yn darparu y caiff cais gan arolygydd am wybodaeth bennu'r ffurf y mae'r wybodaeth i'w darparu ynddi, ac yn lle a pha bryd. Maent hefyd yn caniatáu i arolygydd gopïo neu gofnodi gwybodaeth.
101.Mae is-baragraffau (4) a (5) yn peri ei bod yn dramgwydd methu â chydymffurfio â'r hyn sy'n ofynnol heb esgus rhesymol, neu i altro, celu neu ddinistrio gwybodaeth y gofynnir amdani, yn fwriadol. Mae is-baragraff (6) yn darparu'n ychwanegol os yw person wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu dogfennau neu wybodaeth, y caiff Gweinidogion Cymru neu arolygydd arall, wneud cais i'r Uchel Lys i gael unioni'r cam.
102.Mae is-baragraff (7) yn darparu mai ystyr ‘inspector’ ('arolygydd') yw Gweinidogion Cymru neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i arfer pwerau o dan y paragraff hwn at ddibenion cynnal arolygiad.