Adran 66 - Dyfarnu iawndal
152.Mae'r adran hon yn mewnosod adran 50Q newydd yn Neddf 1996 sy'n pennu'r broses ar gyfer rhoi hysbysiad i LCC sy'n gwneud talu iawndal yn ofynnol, a chynnwys yr hysbysiad hwnnw. Mae iawndal yn cael ei ddyfarnu drwy i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig o iawndal (“compensation notice”) i'r LCC ac i'r person neu'r personau sydd i gael yr iawndal.
153.Mae is-adran (2) o'r adran 50Q newydd yn darparu bod rhaid i'r hysbysiad o iawndal hwnnw osod:
ar ba sail y dyfarnwyd yr iawndal,
swm yr iawndal a ddyfarnwyd,
y person neu'r personau sydd i gael iawndal,
y cyfnod y mae'n rhaid talu'r iawndal o'i fewn, ac
unrhyw log neu iawndal ychwanegol sydd i'w dalu os digwydd i'r taliad fod yn hwyr.
154.Caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r LCC gyhoeddi gwybodaeth ynghylch y dyfarniad a rhaid iddo esbonio effeithiau adrannau 50U (gorfodi) a 50V (apelio) o Ddeddf 1996.