Adran 11 – Cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion
24.Mae is-adran (1) yn darparu pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru, i gynnig y caiff dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir ffedereiddio, ffederasiwn presennol ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion, neu ddau neu ragor o ffederasiynau presennol ffedereiddio, o dan un corff llywodraethu.
25.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol, sy’n gwneud cynigion i ffedereiddio ysgolion neu ffederasiynau o dan yr adran hon, gyhoeddi’r cynigion hynny. Mae is-adran (3) yn darparu bod awdurdod lleol i ymgynghori â chyrff penodol ynglŷn â’r cynigion cyhoeddedig.
26.Nid yw’r gofynion hyn i gyhoeddi ac ymgynghori yn gymwys i gynnig i ffedereiddio ysgolion bach. Diffinnir ysgol fach gan orchymyn a wneir o dan adran 15 o’r Mesur. Pan fo cynnig o’r fath, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ymgynghori â neb ond cyrff llywodraethu’r ysgolion bach sydd i’w ffedereiddio.
27.Mae is-adran (7) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol benderfynu unrhyw gynigion i ffedereiddio ysgolion. Bydd y weithdrefn ar gyfer penderfynu cynigion yn cael ei phennu mewn rheoliadau. Caiff yr awdurdod lleol gadarnhau’r cynigion (naill ai gydag addasiadau neu hebddynt, neu’n ddarostyngedig i ddigwyddiad penodol) neu caiff eu tynnu’n ôl.
28.Mae is-adran (8) yn caniatáu i awdurdodau lleol ystyried ffedereiddio gydag ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol arall, ar yr amod y ceir caniatâd yr awdurdod lleol arall.
29.Mae is-adran (9) yn gwneud yn ofynnol cael caniatâd personau penodol, cyn y caiff awdurdod lleol gynnig ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol. Y personau hynny, yn achos ysgol Gatholig Rufeinig neu ysgol yr Eglwys yng Nghymru yw’r awdurdod esgobaethol, ac yn achos ysgolion sefydledig neu wirfoddol eraill, y personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig.
30.Mae is-adran (10) yn darparu y caiff rheoliadau bennu gofynion mewn perthynas â chynigion i ffedereiddio. Gallai’r rheini gynnwys, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd personau penodol cyn y caiff awdurdod wneud, cyhoeddi neu gadarnhau’r cynigion. Caiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol fach.