- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 2
1. Yng nghwestiwn 3.9, yn y rhan ynglŷn â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a elwid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 54A”.
2. Ar ddiwedd cwestiwn 3.23, hepgorer “(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos).”.
3. Yng nghwestiwn 3.29 —
(a)yn y rhan ynglŷn â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a elwid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 54A”;
(b)yn y rhan ynglŷn â chredyd teulu, yn lle “Credyd teulu” rhodder “Credyd treth i deuluoedd mewn gwaith (a elwid gynt yn gredyd teulu)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 84B”.
4. Yn lle cwestiwn 3.37, rhodder —
“3.37 Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 15 oed?
Nodiadau 93 a 93A | ||
Ydw | □ | |
Nac ydw | □ |
3.37A Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 16 oed?
Nodiadau 93 a 93A | ||
Ydw | □ | |
Nac ydw | □ |
Os ydych wedi ateb “Ydw” naill ai i gwestiwn 3.37 neu 3.37A, ewch at gwestiwn 3.38.
Os ydych wedi ateb “Nac ydw” i'r ddau gwestiwn 3.37 a 3.37A, ewch at y Datganiad ar ddiwedd y Rhan hon.”
5. Yng nghwestiwn 3.38 —
(a)yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau gyda'r geiriau “Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol”, rhodder —
“Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar safle ysgol neu gan awdurdod lleol, ac mae'r tâl ar gyfer cyfnod sy'n cychwyn ar wythfed penblwydd y plentyn ac yn gorffen mewn achos plentyn nad yw'n anabl ar y dydd cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi, yn dilyn penblwydd y plentyn yn 15 oed;”.
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw, mewnosoder —
“Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar safle'r ysgol neu gan awdurdod lleol, ac mae'r tâl ar gyfer cyfnod sy'n cychwyn ar wythfed penblwydd y plentyn ac yn gorffen mewn achos plentyn sy'n anabl ar y dydd cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi, yn dilyn penblwydd y plentyn yn 16 oed;”.
6. Ar ôl nodyn 54, mewnosoder —
“54A. Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad lwfans gweithio i'r anabl a ddyfarnwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen caiff lwfans gweithio i'r anabl ei adnabod fel credyd treth i berson anabl.”.
7. Ar ôl nodyn 84A, mewnosoder —
“84B. Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad o gredyd teulu a ddyfarnwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen caiff lwfans credyd teulu ei adnabod fel credyd treth i deuluoedd mewn gwaith.”.
8. Ar ôl nodyn 93, mewnosoder —
“93A. Mae plentyn yn anabl at ddibenion cwestiynau 3.37, 3.37A, 3.38 os yw wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, os ardystiwyd ei fod yn ddall ac o ganlyniad i hynny mae wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a gynheli neu ar ran awdurdod lleol yn yr Alban neu a beidiodd â chael ei gofrestru'n ddall mewn cofrestr o'r fath o fewn 28 wythnos yn union cyn dyddiad y cais. Mae plentyn yn anabl at ddibenion y cwestiynau hyn hefyd os telir lwfans byw i'r anabl iddo, neu os talwyd lwfans byw i'r anabl iddo hyd nes iddo fynd yn glaf.”.
9. Yn nodyn 95(1)(a), yn lle “lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: