- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Mae'r ysgol yn bodloni'r safon o ran darparu gwybodaeth os yw'r gofynion ym mharagraffau (2) i (9) wedi eu bodloni.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), rhaid i'r ysgol roi i'r rhieni, ac os gwneir cais, i'r Prif Arolygydd, i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu i gorff sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 163(1)(b) o Ddeddf 2002 —
(a)cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a Rhif ffôn yr ysgol, ac enw'r pennaeth;
(b)naill ai—
(i)pan fydd y perchennog yn unigolyn, ei enw llawn, ei gyfeiriad preswyl arferol a chyfeiriad e-bost perthnasol a Rhif ffôn, neu
(ii)pan fydd y perchennog yn gorfforaeth, yn ffyrm neu'n gorff o bersonau Albanaidd, cyfeiriad a Rhif ffôn ei brif swyddfa neu'i brif swyddfa;
(c)os oes gan yr ysgol fwrdd llywodraethwyr, manylion cysylltu Cadeirydd y corff hwnnw;
(ch)datganiad o anian ac amcanion yr ysgol (gan gynnwys unrhyw anian crefyddol);
(d)manylion polisi a threfniadau'r ysgol o ran derbyn disgyblion, disgyblaeth a gwahardd disgyblion;
(dd)manylion y ddarpariaeth o ran addysg a llesiant disgyblion sydd â datganiadau a disgyblion y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ieithoedd ychwanegol iddynt;
(e)manylion y polisïau a baratowyd o dan baragraff 1(2) o'r Atodlen hon;
(f)manylion y polisïau a baratowyd o dan baragraff 3(2) o'r Atodlen hon;
(ff)manylion perfformiad academaidd yr ysgol, gan gynnwys canlyniadau unrhyw arholiadau cyhoeddus;
(g)manylion y drefn gwyno wedi eu nodi yn unol â pharagraff 7 o'r Atodlen hon, nifer y cwynion a gofrestrwyd o dan y drefn ffurfiol yn ystod y flwyddyn ysgol flaenorol; ac
(ng)nifer y staff sy'n cael eu cyflogi yn yr ysgol, gan gynnwys staff dros dro, a chrynodeb o'u cymwysterau.
(3) Yn sgil arolygiad a wnaed o dan adran 163(1) o Ddeddf 2002, mae'n rhaid i'r ysgol anfon y canlynol at rieni pob disgybl a gofrestrwyd, erbyn dyddiad a bennir gan y corff a gyflawnodd yr arolygiad —
(a)crynodeb o'r adroddiad; neu
(b)os nad oes crynodeb o'r adroddiad wedi'i baratoi, addroddiad llawn.
(4) Os anfonwyd crynodeb o'r adroddiad yn unol â pharagraff 3(a), rhaid i'r ysgol wneud trefniadau i rieni gael gweld yr adroddiad llawn os byddant yn gofyn amdano.
(5) Rhaid i'r ysgol roi adroddiad ysgrifenedig i rieni pob plentyn a gofrestrir am ei ddatblygiad a'i gyraeddiadau ym mhob prif bwnc a ddysgir.
(6) Rhaid i'r ysgol roi i unrhyw gorff sy'n gwneud arolygiad o dan adran 163 o Ddeddf 2002—
(a)unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol mewn cysylltiad ag arolygiad ac sydd ei hangen at ddibenion yr arolygiad hwnnw; a
(b)caniatâd i weld y gofrestr dderbyn, ac unrhyw gofrestr bresenoldeb, a gynhelir yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(1).
(7) Os yw disgybl sy'n cael ei ariannu yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod lleol wedi ei gofrestru yn yr ysgol, rhaid rhoi cyfrif blynyddol wedi ei archwilio o'r incwm a gafwyd a'r gwariant a wnaed gan yr ysgol i'r Awdurdod Addysg Lleol ac i'r Cynulliad Cenedlaethol os gofynnir amdano.
(8) Os oes disgybl sydd â datganiad wedi ei gofrestru yn yr ysgol, rhaid i'r ysgol roi i'r awdurdod addysg lleol yr wybodaeth y gellid yn rhesymol ofyn amdani at ddibenion adolygiad blynyddol o'r datganiad.
(9) Rhaid darparu copi o'r asesiad risgiau y cyfeirir ato ym mharagraff 3(5)(a) o'r Atodlen hon os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano.
(10) Mewn perthynas â pharagraffau (e) i (ng) o is-baragraff (2), ar yr amod bod yr ysgol yn sicrhau bod rhieni disgyblion a darpar ddisygblon yn ymwybodol bod yr wybodaeth honno ar gael, nid oes rhaid iddi ei darparu iddynt ond os ydynt yn gofyn amdani.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: