Search Legislation

Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Erthygl 11(3)

ATODLEN 1CAMAU SY'N GYMWYS MEWN PARTHAU DIOGELU A GORUCHWYLIO

RHAN ICamau sy'n gymwys mewn parth diogelu

Cyfyngu ar symud

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2 isod, ni chaiff neb symud na chludo'r un mochyn ar unrhyw ffordd gyhoeddus na phreifat (heblaw, os bydd angen, y ffyrdd gwasanaethu o fewn y daliad) o fewn y parth diogelu.

2.  Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff 1 yn gymwys—

(a)os yw'r symud yn cael ei wneud yn unol â pharagraffau 6 a 7;

(b)i gludo moch a gafodd eu llwytho ar gerbyd y tu allan i'r parth diogelu ac yn cael eu cludo drwy'r parth hwnnw heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho yn y parth hwnnw;

(c)i symud na chludo moch o'r tu allan i'r parth diogelu gyda'r bwriad o'u cigydda ar unwaith mewn lladd-dy sydd o fewn y parth diogelu, ar yr amod bod y symud neu'r cludo wedi cael ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

3.  Ni chaiff neb symud unrhyw gerbyd allan o'r parth diogelu os yw'r cerbyd wedi cael ei ddefnyddio i gludo moch o fewn y parth, os nad —

(a)yw wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio ac, os oes angen, os yw gwiddonladdwr wedi ei ddefnyddio, o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd; a

(b)yw'r symud wedi ei drwyddedi gan arolygydd; neu

(c)yw wedi cael ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho neu ei ddadlwytho.

4.  Rhaid i feddiannydd daliad o fewn y parth diogelu sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael os nad awdurdodwyd y symud drwy drwydded a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

5.  Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth diogelu.

6.  Ni chaiff neb symud yr un mochyn yn y parth diogelu o'r daliad lle y cedwir ef am o leiaf 40 diwrnod ar ôl y cwblheir gwaith cychwynnol glanhau a diheintio ac unrhyw ddefnydd o widdonladdwr ar y daliad heintiedig. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn heb drwydded i wneud hynny a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

7.  Os —

(a)yw daliad wedi bod mewn parth diogelu am hwy na 40 diwrnod oherwydd y bu achosion ychwanegol o'r clefyd yn y parth; a

(b)bod hyn wedi peri problemau ynglŷn â lles neu broblemau eraill o ran cadw'r moch ar y daliad,

ceir symud mochyn oddi ar y daliad ar yr amod bod unrhyw symud o'r fath yn cael ei awdurdodi drwy drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

Lleihau cyfnodau aros

8.  Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni yn dilyn rhaglen samplo a phrofi, nad yw'r clefyd bellach yn bodoli ar y daliad dan sylw, ceir lleihau drwy hysbysiad y cyfnod o 40 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraffau 6 a 7 uchod i 30 diwrnod.

Hysbysu ynghylch moch yn marw ar ddaliad

9.  Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth diogelu roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar ei ddaliad.

Bioddiogelwch

10.  Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y clefyd (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto.

11.  Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth diogelu yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod person o'r fath yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol ei esgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.

RHAN IICamau sy'n gymwys mewn Parth Goruchwylio

Cyfyngu ar symud

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2, ni chaiff neb symud na chludo yr un mochyn ar unrhyw ffordd gyhoeddus na phreifat (heblaw, os bydd angen, y ffyrdd gwasanaethu o fewn y daliad) o fewn y parth goruchwylio os nad yw wedi cael trwydded i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

2.  Ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff 1 yn gymwys —

(a)i gludo moch a lwythwyd i mewn i gerbyd y tu allan i'r parth goruchwylio ac sy'n cael eu cludo drwy'r parth hwnnw heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho yn y parth; na

(b)i symud neu gludo moch o'r tu allan i'r parth goruchwylio gyda'r bwriad o'u cigydda ar unwaith mewn lladd-dy sydd o fewn y parth goruchwylio, ar yr amod bod y symud neu'r cludo wedi cael ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

3.  Ni chaiff neb symud yr un cerbyd a ddefnyddir i gludo da byw o'r parth goruchwylio os yw wedi ei ddefnyddio i gludo moch, os nad yw yn gyntaf wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio, ac os oes angen, â gwiddonladdwr wedi ei ddefnyddio arno, neu os na chafodd ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho na'i ddadlwytho.

4.  Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael o fewn y saith niwrnod ers sefydlu'r parth hwnnw os nad oes ganddi awdurdod i wneud hynny drwy drwydded gan arolygydd.

5.  Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth goruchwylio.

Symud moch

6.  Ni chaiff neb symud yr un mochyn o ddaliad sydd yn y parth goruchwylio am o leiaf 30 diwrnod ar ôl i waith cychwynnol glanhau a diheintio'r daliad heintiedig ac unrhyw ddefnydd o widdonladdwr gael ei gwblhau. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn os nad oes ganddo drwydded i hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd.

7.  Os yw daliad —

(a)wedi bod o fewn parth goruchwylio am fwy na 40 diwrnod oherwydd bod achosion ychwanegol o'r clefyd; a

(b)bod hynny yn peri problemau o ran lles neu broblemau eraill o ran cadw'r moch ar y daliad,

ceir symud moch o'r daliad hwnnw ar yr amod bod y symud wedi ei drwyddedi gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Lleihau cyfnodau aros

8.  Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni yn dilyn rhaglen samplo a phrofi, nad yw'r clefyd bellach yn bodoli ar y daliad dan sylw, ceir lleihau drwy hysbysiad y cyfnod o 30 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff 6 uchod i 21 diwrnod a'r cyfnod o 40 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 uchod i 30 diwrnod.

Bioddiogelwch

9.  Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y feirws (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol neu arolygydd neu berson arall a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

10.  Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth goruchwylio yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod person yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol ei esgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.

Hysbysu ynghylch moch yn marw ar ddaliad

11.  Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar y daliad.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources