Search Legislation

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y prif Reoliadau”).

Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person (“y preswylydd”) i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.

Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid asesu preswylydd fel un sy'n gallu talu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy na therfyn cyfalaf uchaf o £19,000. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf uchaf o £19,000 i £20,000. Mae'r prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sydd o fewn band rhwng y terfyn cyfalaf uchaf a'r terfyn cyfalaf isaf. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r terfynau cyfalaf uchaf ac isaf. Mae pob £250 neu ran o £250 o fewn y band hwn yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio'r prif Reoliadau gyda'r effaith y bydd yr holl daliadau cyfnodol a geir mewn setliad o hawliad am anaf personol, boed yn rhinwedd cytundeb neu orchymyn llys, i'r graddau nad ydynt yn incwm, yn cael eu trin fel incwm.

Mae Rheoliad 5 yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn rhoi yn lle'r cyfeiriad at “invalid care allowancey term “carer’s allowance”.

Mae Rheoliad 6 yn diwygio'r prif Reoliadau gyda'r effaith bod taliadau incwm naill ai, (a) a gafwyd o ymddiriedolaethau y mae eu cyllid yn deillio o setliadau anaf personol i'r preswylydd, neu (b) o flwydd-dal a brynwyd o gyllid o'r fath neu (c) yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau am anaf personol, yn cael eu hanwybyddu yn eu cyfanrwydd pan ydynt wedi'u bwriadu a'u defnyddio ar gyfer angen gan y preswylydd na chymerwyd i ystyriaeth wrth bennu cost (neu gyfradd safonol) y llety a ddarperir. Fel arall, anwybyddir £20 cyntaf incwm o'r fath.

Mae Rheoliadau 7 ac 8(4) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn hepgor, wrth gyfrifo incwm neu gyfalaf, unrhyw daliadau a wneir i breswylwyr neu ar eu rhan ac sy'n ymwneud â gwasanaethau lles y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi grant mewn cysylltiad â hwy i'r awdurdod lleol o dan a.93(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae Rheoliad 7 hefyd yn hepgor lwfans gwarcheidwad a chredyd treth plant.

Mae Rheoliad 8(1) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn hepgor, wrth gyfrifo cyfalaf preswylydd, werth buddiant y preswylydd mewn cartref a feddiannai gynt gyda phriod neu bartner nad yw bellach yn briod ag ef neu hi neu yn byw gydag ef neu hi, os yw'r cyn-briod neu'r cyn-bartner yn dal i feddiannu'r cartref fel rhiant unigol.

Mae Rheoliad 8(2) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cadw'r sefyllfa bresennol ynghylch trin ôl-ddyledion amrywiol fudd-daliadau nawdd cymdeithasol wrth asesu cyfalaf preswylydd ac mae'n tynnu oddi yno gyfeiriad at baragraff o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a gafodd ei ddirymu.

Mae Rheoliad 8(3) yn darparu ar gyfer anwybyddu wrth gyfrifo cyfalaf unrhyw ôl-ddyledion neu unrhyw daliad consesiynol a wneir i ad-dalu ôl-ddyledion oherwydd na thalwyd credydau treth am gyfnod o 52 o wythnosau o ddyddiad eu talu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources