Search Legislation

Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 3 Ebrill 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “adolygiad cyffredinol” (“general review”) yw adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 20(1)(d) o'r Ddeddf(1);

ystyr “adolygiad dilysu” (“validation review”) yw adolygiad o dan adran 20(1)(da)(2) o'r Ddeddf;

ystyr “adolygiad gwasanaeth gwladol” (“national service review”) yw adolygiad cyffredinol sy'n ymwneud â mathau penodol o ofal iechyd y mae cyrff GIG neu ddarparwyr gwasanaethau yn gyfrifol amdano;

ystyr “adolygiad llywodraethu clinigol” (“clinical governance review”) yw adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 20(1)(b) o'r Ddeddf neu reoliad 2(c) neu (d) o'r Rheoliadau Swyddogaethau;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol” (“relevant Local Health Board”) mewn perthynas â darparydd gwasanaeth yw —

(a)

os yn ardal un Bwrdd Iechyd Lleol yn unig y mae'r darparydd gwasanaeth yn darparu gwasanaethau, y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, neu

(b)

os yw'r darparydd gwasanaeth yn darparu gwasanaethau yn ardaloedd dau neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol, pob un o'r Byrddau Iechyd Lleol hynny;

ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Gwella Iechyd a sefydlwyd gan adran 19 o'r Ddeddf;

ystyr “y Comisiwn Archwilio” (“the Audit Commission”) yw'r Comisiwn Archwilio dros Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr(3);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darparydd gwasanaeth” (“service provider”) yw person, heblaw corff GIG(4)), sydd —

(a)

yn darparu gwasanaethau Rhan II;

(b)

yn darparu gwasanaethau yn unol â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997; neu

(c)

yn darparu gwasanaethau yn unol â threfniadau o dan adran 28 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(5);

ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(6);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;

ystyr “gwasanaethau Rhan II” (“Part II services”) yw gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol o dan Ran II o Ddeddf 1977;

ystyr “gweithiwr proffesiynol gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel aelod o broffesiwn gofal iechyd;

ystyr “proffesiwn gofal iechyd” (“health care profession”) yw proffesiwn y mae adran 60(2) o'r Ddeddf yn gymwys iddo;

ystyr “y Rheoliadau Swyddogaethau” (“Functions Regulations”) yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) 2000(7);

ystyr “safle perthnasol” (“relevant premises”) yw safle perthnasol fel y'i diffinnir gan adran 23(6) o'r Ddeddf;

ystyr “trefniadau llywodraethu clinigol” (“clinical governance arrangements”) yw —

(a)

yn achos ymddiriedolaethau'r GIG, neu ddarparydd gwasanaeth, trefniadau monitro a gwella ansawdd y gofal iechyd(8) y maent yn gyfrifol amdano;

(b)

yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, trefniadau at ddibenion monitro a gwella ansawdd y gofal iechyd sy'n cael ei ddarparu i'r unigolion yn eu hardal;

ystyr “ymchwiliad” (“investigation”) yw ymchwiliad gan y Comisiwn yn unol ag adran 20(1)(c) o'r Ddeddf(9)) neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau;

ystyr “ymchwiliad gwasanaeth iechyd” (“health service inquiry”) yw ymchwiliad, a gynhelir neu a sefydlir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gorff GIG, i unrhyw fater sy'n ymwneud â rheolaeth, darpariaeth ac ansawdd y gofal iechyd y mae cyrff GIG neu ddarparwyr gwasanaeth yn gyfrifol amdano.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ofal iechyd y mae person yn gyfrifol amdano i'w dehongli yn unol ag adran 20(5) o'r Ddeddf.

(1)

Diwygiwyd adran 20(1)(d) gan adran 20(1) a (2) o Ddeddf 2002.

(2)

Mewnosodwyd adran 20(1)(da) gan adran 12(2)(c) o Ddeddf 2002.

(3)

Cafodd bodolaeth y Comisiwn Archwilio ei pharhau gan adran 1 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 (p. 18).

(4)

Gweler adran 20(7) o'r Ddeddf i gael diffiniad o “NHS body”; diwygiwyd y diffiniad gan Atodlen 1, paragraff 49, i Ddeddf 2002.

(5)

p. 15.

(7)

O.S. 2000/662 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/797 ac O.S. 2002/2469.

(8)

Gweler adrannau 18(4) a 20(7) o Ddeddf 1999 i gael diffiniad o “health care”.

(9)

Diwygiwyd adran 20(1)(c) gan Atodlen 1, paragraff 49, o Ddeddf 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources