- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
20.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau a gafodd eu hawdurdodi'n ysgrifenedig gan Gyngor, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn i fangreoedd y mae'r canlynol yn berchen arnynt neu'n eu rheoli i'w harchwilio:—
(a)Byrddau Iechyd Lleol;
(b)Ymddiriedolaethau GIG ;
(c)awdurdodau lleol;
(ch)Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol;
(d)personau sy'n darparu gwasanaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1977 neu o dan drefniadau o dan adran 28C o'r Ddeddf honno, neu
(dd)personau sy'n darparu gwasanaethau peilot o dan gynlluniau peilot a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf 2001, neu sy'n darparu gwasanaethau o dan gynllun GFfLl a sefydlwyd o dan Atodlen 8A i'r Ddeddf,
(e)personau sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran I o'r Ddeddf; neu
(f)personau sy'n berchen ar fangreoedd lle y darperir gwasanaethau fel a grybwyllir yn (d) (dd), neu (e).
(2) Rhaid rhoi i bob person a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) dystiolaeth ysgrifenedig ei fod wedi'i awdurdodi a phan fydd yn ceisio mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at y dibenion a bennwyd yn y paragraff hwnnw, rhaid iddo ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannwr y fangre honno neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y naill neu'r llall ohonynt.
(3) Ac eithrio pan fydd Cyngor o'r farn ei bod yn fanteisiol i'r gwasanaeth iechyd ac er budd y gwasanaeth hwnnw, neu pan fydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu staff, rhaid i berson a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) beidio â mynnu ei fod yn cael mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw fel mater o hawl oni chafodd y person neu'r corff sy'n berchen arni neu sy'n eu rheoli rybudd rhesymol o'i fwriad.
(4) Ni chaiff person a awdurdodwyd gan Gyngor o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel llety preswyl —
(a)ar ran personau a gyflogir gan unrhyw rai o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraffau 4(a) i (ch); neu
(b)gan bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (4)(d) i (e),
heb iddo fod wedi cael caniatâd y bobl hynny'n gyntaf.
(5) Wrth arfer hawliau i fynd i mewn i fangre i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, bydd yn rhaid i Gyngor gadw mewn cof yr angen am sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas claf, ac unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddwyd gan y Cynulliad a phan fydd yn ymarferol gwneud hynny, bydd yn cydweithredu ag unrhyw gorff arall sy'n arfer hawliau tebyg yn unol ag unrhyw ddeddfiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: