- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5) isod caiff telerau unrhyw indemniad a roddir (gan gynnwys unrhyw yswiriant a sicrheir) o dan y Gorchymyn hwn fod yn delerau y caiff yr awdurdod perthnasol gytuno arnynt.
(2) Mae paragraffau (3), (4) a (5) yn gymwys pan fo unrhyw indemniad a roddir i unrhyw aelod neu swyddog (gan gynnwys unrhyw yswiriant a sicrheir ar gyfer yr aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw) yn effeithiol mewn perthynas ag amddiffyniad—
(a)unrhyw gamau troseddol; neu
(b)unrhyw gamau Rhan III.
(3) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad, ac unrhyw yswiriant a sicrheir, ar y telerau yn achos camau troseddol, os collfernir yr aelod neu'r swyddog dan sylw o dramgwydd troseddol ac ni wrthdroir y gollfarn honno o ganlyniad i unrhyw apêl, rhaid i'r aelod hwnnw neu i'r swyddog hwnnw ad-dalu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr (yn ôl y digwydd) am unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
(4) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad a sicrheir unrhyw yswiriant, ar y telerau yn achos camau Rhan III, lle—
(a)dyfernir, yn y camau hynny, bod yr aelod dan sylw wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad ac ni wrthdroir y dyfarniad hwnnw o ganlyniad i unrhyw apêl, neu
(b)mae'r aelod yn addef ei fod wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad, ac
(c)os cymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnwo ganlyniad i fethiant â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad,
rhaid i'r aelod hwnnw ad-dalu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr (yn ôl y digwydd) unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
(5) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad, a sicrheir unrhyw yswiriant, ar y telerau, yn achos camau Rhan III, lle—
(a)dyfernir yn y camau hynny bod yr aelod dan sylw wedi methu â chydmffurfio â'r Cod Ymddygiad ac os na wrthdroir y dyfarniad hwnnw o ganlyniad i unrhyw apêl; neu
(b)mae'r aelod yn addef ei fod wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad; ac
(c)mae'r aelod o dan sylw wedi'i geryddu neu ni chymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnw o ganlyniad i'w fethiant â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad;
caiff Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yr aelod benderfynu bod rhaid i'r aelod ad-adlu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
(6) Pan fo aelod neu swyddog dan rwymedigaeth i ad-dalu i awdurdod perthnasol neu i yswiriwr yn unol â'r telerau a grybwyllir ym mharagraff (3), (4) a (5) uchod, bydd y symiau hynny yn adenilladwy gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr (yn ôl y digwydd) fel dyled sifil.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: