Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9 ac Arbediad) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) ac yn egluro effaith cychwyniadau blaenorol darpariaethau eraill.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn —

(a)adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf. Roedd Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)) yn honni ei fod yn dwyn i rym baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf heb wneud darpariaeth yn ddatganedig i ddwyn i rym adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r paragraffau hynny. Mae erthygl 2(a)(i) o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau priodol i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i'r Gorchymyn blaenorol;

(b)adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i baragraff 26 o Atodlen 6 i'r Ddeddf. Bydd hyn yn ymestyn swyddogaethau hawliau tramwy sy'n arferadwy gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol i gynnwys y swyddogaethau hawliau tramwy newydd y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw (erthygl 2(a)(ii));

(c)y pwerau i ddyroddi canllawiau o dan adran 69(1) a (3) o'r Ddeddf cyn cychwyn gweddill yr adran honno er mwyn galluogi'r canllawiau i gael eu paratoi mewn pryd i gael eu dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) ar yr un adeg ag y dygir y darpariaethau cysylltiedig i rym (erthygl 2(b));

(ch)adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r cofnod ynghylch adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”) a geir yn Rhan I o Atodlen 16 i'r Ddeddf. Roedd Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1489 (Cy.154) (C.59)) (“Gorchymyn Rhif 5”) yn honni ei fod yn dwyn i rym y cofnod sy'n ymwneud ag adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”) a geir yn Rhan 1 o Atodlen 16 i'r Ddeddf heb wneud darpariaeth yn ddatganedig i ddwyn i rym adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau ei bod yn rhoi effaith i'r cofnod hwnnw. Mae erthygl 2(c)(i) o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau priodol i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i'r Gorchymyn blaenorol; a

(d)adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddiddymu paragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a geir yn Rhan II o Atodlen 16 i'r Ddeddf. Peidiodd y paragraff a ddiddymwyd â chael effaith ymarferol pan gychwynnwyd paragraff 11(8) o Atodlen 5 i'r Ddeddf gan erthygl 2(a)(iii) o O.S. 2005/1314 (Cy.96) (C.58). Mae cychwyn y diddymiad hwn yn tynnu'r ddarpariaeth oddi ar y llyfr statud (erthygl 2(c)(ii)).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adran 69 o'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac i'r graddau na chychwynnir hi gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn. Mae adran 69 o'r Ddeddf yn diwygio adran 147 o Ddeddf Priffyrdd 1980, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i anghenion pobl sydd â phroblemau symudedd pan fydd yn awdurdodi codi camfeydd newydd, clwydi newydd neu waith newydd arall ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd Gorchymyn Rhif 5 yn cynnwys darpariaeth arbed am unrhyw weithred a gafodd ei chyflawni cyn dwyn i rym ddiddymiad o adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan y Gorchymyn hwnnw. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth o ran effaith yr arbediad, mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn ailadrodd yr arbediad hwnnw.

Daw erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007. Daw gweddill y Gorchymyn hwn i rym ar 6 Rhagfyr 2006.

Adran(nau) neu Atodlen(ni)Y dyddiad cychwynRhif O.S.
2 a 12 i 1428 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
18, 20 a 46(1)(a)21 Mehefin 20042004/148 (Cy.154) (C.59)
46(1)(b)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol)28 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
47 i 5011 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
51 (yn rhannol)31 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
51 (yn rhannol)21 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
51 (yn rhannol)11 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
57 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol)31 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol)21 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol)11 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
60 a 611 Tachwedd 20022002/2615 (Cy.253) (C.82)
631 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
681 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
69(2)11 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
70(1)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
70(2)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(3)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
70(4), 72 a 82 i 931 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
961 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
9930 Ionawr 20012001/203 (Cy.9) (C.10)
102 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
102 (yn rhannol)28 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
102 (yn rhannol)11 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (Cy.42)
Atodlen 228 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 4, paragraff 11 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 2 a 328 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 4, paragraffau 4 i 61 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 5, paragraff 111 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 5, paragraff 221 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 5, paragraffau 5 a 611 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 5, paragraff 831 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 5, paragraff 911 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 5, paragraffau 10 a 1131 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 5, paragraffau 12 i 1711 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 6, paragraff 11 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraffau 2 a 331 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 421 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 5 (yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 61 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraff 8 (yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 9(1) i (3)31 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 9(5)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraff 1131 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraffau 12, 13(1) i (4), (5)(a) i (d) a (7) i (9) a 14 (pob un yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 14(1) a (4)(a)31 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 15 (yn rhannol)21 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 17 (yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 18(a) (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraff 18(a) a (b) (y ddau yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 19 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraff 19 (yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 20(a) i (c)31 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraffau 20(d) ac (e), 21, 23(1), (2)(a) a (b), (3)(a) a (b), (4)(a) a (b), (5), (7) ac (8) (pob un yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 23(8) (y gweddill)11 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 6, pargraff 23(9)(a) a (b) (yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 2431 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlenni 13 i 151 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol)21 Mehefin 20042004/1489 (Cy.154) (C.59)
Atodlen 16, Rhan I (y gweddill)28 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol)11 Mai 20062006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 16, Rhannau V a VI1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr—

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources