Search Legislation

Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae swyddogaethau craidd awdurdodau tân ac achub wedi'u nodi yn adrannau 6 i 8 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ('y Ddeddf'). Y swyddogaethau sy'n gysylltiedig â diogelwch rhag tân, diffodd tân a damweiniau traffig ffyrdd yw'r rhain. Mae adran 9 o'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu drwy orchymyn swyddogaethau craidd eraill ynghylch argyfyngau y mae'n rhaid i awdurdodau tân ac achub ddarparu ar eu cyfer. Mae “emergencies” wedi'i ddiffinio yn adran 58 o'r Ddeddf.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r argyfyngau a ddisgrifir yn erthyglau 2 a 3.

Mae erthygl 2 yn ymdrin ag argyfyngau sy'n ymwneud â halogion cemegol, biolegol, neu ymbelydrol.

Mae erthygl 3 yn ymdrin ag argyfyngau sy'n ymwneud ag adeiledd yn cwympo. Mae'n ymdrin hefyd ag argyfyngau sy'n ymwneud â thrên, tram neu awyren (“argyfyngau trafnidiaeth”), ond nid yw'n gymwys o ran argyfyngau trafnidiaeth onid yw'r digwyddiad yn debyg o ofyn bod awdurdod tân ac achub yn defnyddio adnoddau y tu hwnt i gwmpas ei weithrediadau arferol o ddydd i ddydd. Nid yw'n ofynnol i awdurdodau ddarparu ar gyfer delio ag argyfyngau trafnidiaeth i'r graddau y maent yn ymwneud â thwnnel neu gloddfa yn cwympo.

Mae erthygl 4 yn pennu'r pethau y mae'n rhaid i awdurdodau tân ac achub eu gwneud wrth ddarparu ar gyfer argyfyngau o'r disgrifiadau yn erthygl 2 neu 3.

Pan fo gan awdurdod tân ac achub adnoddau arbenigol, gan gynnwys gweithwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, i'w alluogi i ddelio ag argyfyngau o'r math a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn, a bod argyfwng felly yn digwydd neu'n debyg o ddigwydd yn ardal awdurdod arall, mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod sy'n meddu ar yr adnoddau arbenigol, os gofynnir iddo wneud hynny, ddefnyddio'r adnoddau hynny yn ardal yr awdurdod arall hwnnw i'r graddau y mae'n rhesymol at ddibenion delio â'r argyfwng.

Mae asesiad effaith reoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael o'r Gangen Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729253).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources