- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).
O dan adrannau 53, 64(3) a 65(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”), mae Rheoliadau 2005 yn rhagnodi pa hereditamentau sydd i'w rhestru ar y rhestri ardrethu annomestig canolog ar gyfer Cymru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005 ac yn dynodi pa bersonau yr ystyrir eu bod yn meddiannu'r hereditamentau hynny, ne os nad ydynt wedi eu meddiannu, y personau sydd â pherchnogaeth o'r hereditamentau at ddibenion ardrethu.
Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2005 yn ymwneud â hereditamentau cyfathrebu ac yn darparu bod hereditamentau'r person perthnasol a ddynodir o dan reoliad 4 i'w trin fel hereditament sengl.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu bod British Telecommunications plc (“BT”) i'w drin fel pe bai'n meddiannu hereditament sengl sy'n cynnwys yr eiddo y mae'n ei feddiannu neu'n berchen arno, megis cabanau teleffon a mastiau, a'r holl ddolennau lleol a ddadfwndelwyd. Mae dolen leol a ddadfwndelwyd yn bodoli pan fo'r cysylltiad gwifren gopr rhwng y gyfnewidfa teleffon leol a mangre'r cwsmer wedi ei ddatgysylltu o rwydwaith BT a'i gysylltu â rhwydwaith darparwr gwasanaeth amgen.
Mae adran 53(4) o'r Ddeddf yn darparu, pan fo rheoliadau yn diwygio'r rhestr o bersonau dynodedig mewn perthynas â disgrifiad o hereditament, y caiff y diwygiadau hynny gael effaith o ddyddiad cynharach na'r dyddiad y gwnaed y rheoliadau. Yn unol â'r pwer hwnnw, mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud BT yn atebol am ddolennau lleol a ddadfwndelwyd o 1 Ebrill 2005 ymlaen.
Paratowyd asesiad effaith rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono yn http:www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: