Search Legislation

Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

2.—(1Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003(1) yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad “Cyfarwyddeb 2002/46” rhodder y diffiniadau canlynol—

  • ystyr “Cyfarwyddeb 90/496” (“Directive 90/496”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd(2) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/100/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd o ran lwfansau dyddiol a argymhellir, ffactorau trosi ynni a diffiniadau(3);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2001/83” (“Directive 2001/83”) yw Cyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned sy'n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol i'w defnyddio gan bobl(4) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/53/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC a Chyfarwyddeb 2001/83/EC, o ran amrywiadau i delerau awdurdodiadau marchnata ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol(5);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys ychwanegion bwyd(6);”.

(3Yn union ar ôl paragraff (3) o reoliad 2 (dehongli) mewnosoder y paragraff a ganlyn–

(4) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/46 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd..

(4Yn rheoliad 3 (cwmpas y Rheoliadau), yn lle paragraff (2), rhodder y paragraff canlynol–

(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83..

(5Yn rheoliad 5 (gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd)—

(a)ym mharagraff (1) hepgorer y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (3)”

(b)yn is-baragraff (a) o baragraff (1), yn lle'r geiriau “yng ngholofn 1 o Atodlen 1” rhodder y geiriau “yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46”;

(c)yn is-baragraff (b)(i) o baragraff (1), yn lle'r geiriau “Atodlen 2” rhodder y geiriau “Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46”; ac

(ch)hepgorer paragraff (3).

(6Yn rheoliad 6 (cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd)—

(a)yn lle is-baragraff (b) o baragraff (3) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—

(b)cael ei rhoi, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46, drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir mewn cromfachau ar ôl enw'r fitamin neu'r mwyn hwnnw;; a

(b)yn lle is-baragraff (d) o baragraff (3) rhodder yr is-baragraff canlynol—

(d)cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 90/496, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol a argymhellir ac sy'n berthnasol ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw..

(7Yn union ar ôl rheoliad 11 (cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf) ychwaneger y rheoliad a ganlyn—

Darpariaeth drosiannol

12.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy'n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(d) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad—

(a)bod yr ychwanegiad bwyd o dan sylw wedi ei werthu cyn 31 Hydref 2012; a

(b)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny pe na fyddai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2) a (6)(b) o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 wedi bod yn weithredol pan werthwyd y bwyd..

(8Hepgorer Atodlen 1 (fitaminau a mwynau y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd) ac Atodlen 2 (ffurf ar sylweddau fitamin a mwyn y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd).

(2)

OJ Rhif L276, 6.10.1990, t.40.

(3)

OJ Rhif L285, 29.10.2008, t.9.

(4)

OJ Rhif L311, 28.11.2001, t.67.

(5)

OJ Rhif L168, 30.6.2009, t.33.

(6)

OJ Rhif L314, 1.12.2009, t.36.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources