- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Rhaid i'r athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion ac i berchennog ysgol annibynnol drefnu bod adroddiad ysgrifenedig sy'n cynnwys yr wybodaeth am unigolion a bennir yn Atodlen 2 ar gael bob blwyddyn ysgol i riant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol y mae'n darparu darpariaeth a ariennir iddo.
(2) Mae rhiant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol, y mae'r athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion neu berchennog ysgol annibynnol yn darparu darpariaeth a ariennir iddo, yn berson rhagnodedig at ddibenion adran 537A(2)(b) o Ddeddf 1996.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n atal yr wybodaeth am unigolion a bennir yn Atodlen 2 rhag cael ei chynnwys mewn mwy nag un adroddiad ar yr amod, yn ddarostyngedig i baragraff (5), bod yn rhaid i ddarparwr y ddarpariaeth a ariennir anfon bob blwyddyn ysgol yr wybodaeth honno drwy'r post neu fel arall cyn diwedd tymor yr haf.
(4) Rhaid i'r cyfnod y mae adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth am unigolion yn Atodlen 2 yn ymwneud ag ef ddechrau ym mhob achos ar ba ddyddiad bynnag yw'r diweddaraf o'r canlynol—
(a)y dyddiad y dechreuodd y person sy'n darparu'r ddarpariaeth a ariennir ddarparu addysg o'r fath i'r plentyn; neu
(b)diwedd y cyfnod yr oedd yr adroddiad diwethaf ar y materion hynny a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag ef.
(5) Pan na fo unrhyw un neu rai o'r manylion sy'n angenrheidiol i ddarparu'r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 2 yn dod i law darparwr y ddarpariaeth a ariennir tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid iddo drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol a sut bynnag erbyn y 30 Medi canlynol fan bellaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: