Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3294 (Cy.290)). Dyma'r prif newidiadau —LL+C

(a)darperir bod person sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig deddfwriaeth yr UE ynghylch pwysigrwydd mathau penodol o fwyd anifeiliaid a bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd (rheoliad 41(1) (a));

(b)darperir bod cyrff penodedig yn cael eu dynodi'n awdurdodau cymwys o ran y mewnforion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn (rheoliad 23(2), (3) (4) rheoliad 24(2), (3) (4));

(c)darperir y caniateir i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi,yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau bwyd anifeiliaid a bwyd gyfnewid a dadlennu gwybodaeth (rheoliad 26);

(ch)darperir y caniateir i bwyntiau mynediad dynodedig ar gyfer y mewnforion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn gael eu hatal (rheoliad 30);

(d)darperir y caniateir i ffioedd gael eu casglu gan awdurdodau cymwys mewn cysylltiad â'r lefel uwch o reolaethau swyddogol ar y mewnforion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn (rheoliad 36(2)); ac

(dd)diwygir y diffiniad o “cyfraith bwyd berthnasol” yn Atodlen 3.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn sydd,fel O.S. 2007/3294 (Cy.290), yn gymwys o ran Cymru'n unig, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi —LL+C

(a)Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei wirio (OJ Rhif L165,30.4.2004, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1029/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor er mwyn diweddaru cyfeiriad at Safonau Ewropeaidd penodol (OJ Rhif L278, 21.10.2008, t.6), mewn perthynas â “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” a “cyfraith bwyd berthnasol”, sef termau a ddiffinnir yn Atodlenni 2 a 3 yn eu trefn.Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29); a

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y lefel uwch o reolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n dod o anifeiliaid,ac sy'n diwygio Penderfyniad 2006/50 /EC (OJ Rhif L194, 25.7.2009, t.11).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gwaharddiadau ar gyflwyno bwydydd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol i Gymru yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/68/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14), fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwnnw wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3,y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach, OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26).LL+C

4.  Mae'r Rheoliadau hyn —LL+C

(a)yn darparu ar gyfer dynodi cyrff penodedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 3);

(b)yn darparu ar gyfer cyfnewid a darparu gwybodaeth gan awdurdodau cymwys (rheoliad 4);

(c)yn galluogi awdurdod cymwys i'w gwneud yn ofynnol i gorff rheoliaddarparu gwybodaeth a threfnu bod cofnodion ar gael a darparu bod person —

(i)sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu i drefnu bod cofnodion ar gael, neu

(ii)sydd,gan honni ei fod yn cydymffurfio â'r cyfryw ofyniad, yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

(ch)yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi codau arfer a argymhellir i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd (rheoliad 6);

(d)yn rhoi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd y swyddogaeth o fonitro perfformiad awdurdodau gorfodi o ran gorfodi deddfwriaeth benodol (rheoliad 7);

(dd)yn rhoi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd y pŵer,at ddiben cyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwn —

(i)i'w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu ac i gofnodion fod ar gael (rheoliad 8,a

(ii)i awdurdodi unigolion (y caniateir iddynt drwy hynny arfer pwerau penodol,gan gynnwys pŵer mynediad) (rheoliad 9);

(e)yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn rheoliadau 7 i 9 (rheoliad 10);

(f)yn darparu bod person —

(i)sy'n rhwystro person sy'n arfer pŵer i fynd i mewn i fangre,i gymryd samplau neu i archwilio a chopïo cofnodion,

(ii)sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth, trefnu bod cofnodion ar gael neu i ddarparu cyfleusterau, cofnodion, gwybodaeth neu gymorth arall, neu

(iii)sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio â'r cyfryw ofyniad, yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 11);

(ff)yn darparu hawl i apelio mewn cysylltiad â phenderfyniad gan yr awdurdod cymwys ynghylch cymeradwyo sefydliadau penodol o dan Erthygl 31 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliadau 12 a 13);

(g)yn darparu y caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd ag aelod o staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 14);

(ng)yn darparu y caiff “swyddog gorfodi”, a ddiffinnir yn rheoliad 15(2), pan fydd yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, fynd ag un o arbenigwyr y Comisiwn gydag ef i alluogi'r arbenigwr hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 15);

(h)yn darparu bod person sy'n mynd i mewn i fangre o dan y pwerau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (g) neu (ng) o'r paragraff hwn ac sy'n datgelu unrhyw wybodaeth a geir ar y fangre mewn perthynas ag unrhyw gyfrinach fasnachol yn euog o dramgwydd onid yw'n gwneud hynny wrth gyflawni ei ddyletswydd (rheoliad 16);

(i)yn pennu pa awdurdodau sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau 5(3), 9(8), 11, 16, 18(8) ac 19 (rheoliad 17);

(j)yn rhoi pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (i) o'r paragraff hwn (rheoliad 18);

(l)yn peri bod rhwystro swyddog sy'n cymryd camau i weithredu rheoliad 14, 15 neu 18 yn dramgwydd (rheoliad 19);

(ll)yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 20);

(m)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan reoliad 18(8) (rheoliad 21);

(n)yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu a gorfodi Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, Erthyglau 15 i 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 a Rheoliad (EC) Rhif 669/2009, a ddiffinnir gyda'i gilydd yn rheoliad 2(1) fel “y Darpariaethau Mewnforio” (rheoliadau 23(1) a 24(1));

(o)yn darparu ar gyfer dynodi cyrff penodedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 669/2009 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd (rheoliadau 23(2), (3) a (4) a 24(2), (3) a (4));

(p)yn darparu bod Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd i'r gwasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 ac Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 669/2009, ym mhob achos mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd (rheoliad 25);

(ph)yn darparu bod Comisiynwyr dros Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdodau bwyd anifeiliaid a bwyd yn cyfnewid a datgelu gwybodaeth ac yn gwahardd datgelu, yn ddarostyngedig i amodau, wybodaeth a ddaeth i law oddi wrth y Comisiynwyr (rheoliad 26);

(r)yn darparu ar gyfer gohirio gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio hyd onid yw'r cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan (rheoliad 27);

(rh)yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 (fel y disgrifir ym mharagraff 3 uchod) yn gwahardd cyflwyno i Gymru fwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol oni chaiff amodau penodedig eu bodloni (rheoliad 28);

(s)yn darparu ar gyfer gwirio cynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru (rheoliad 29);

(t)yn darparu ar gyfer atal pwyntiau mynediad dynodedig (rheoliad 30);

(th)yn darparu bod gan awdurdod gorfodi, yn y lle cyntaf, y pŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 ac, yn ail, yn darparu mai ef yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o'r Rheoliad hwnnw (rheoliad 31);

(u)yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi pan fydd yn cynnig cymryd camau penodol neu arfer pwerau penodol o dan Erthygl 18 ac 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd) (rheoliad 32);

(w)yn darparu hawl i apelio mewn cysylltiad â chyflwyno hysbysiadau o dan reoliad 32 (rheoliadau 33 a 34);

(y)yn galluogi Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth drwy ddatganiad ysgrifenedig i atal cyflwyno i Gymru, neu i osod amodau ar gyflwyno i Gymru,unrhyw gynnyrch o drydedd wlad lle y maent yn dod i wybod neu lle y mae'n rhesymol iddynt amau bod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad honno, neu y gall gael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad honno, yn debyg o fod yn risg ddifrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd (rheoliad 35);

(aa)yn darparu bod y costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi y mae gweithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd neu ei gynrychiolydd yn atebol amdanynt o dan Erthygl 22 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (costau a dynnir gan awdurdod cymwys am y gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthyglau 18 i 21 o'r Rheoliad hwnnw) yn daladwy gan weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd neu ei gynrychiolydd (rheoliad 36(1));

(bb)yn darparu bod y ffioedd y mae'n ofynnol eu casglu gan awdurdod cymwys o dan Erthygl 14 o Reoliad (EC) Rhif 669/2009 yn daladwy gan weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd yn ddarostyngedig i'r lefel uwch o reolaethau swyddogol y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliad hwnnw, neu gan ei gynrychiolydd (rheoliad 36(2));

(cc)yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau bwyd at ddibenion gweithredu a gorfodi Darpariaethau Mewnforio (rheoliadau 37 a 38);

(chch)yn darparu pwerau mynediad ar gyfer swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd mewn perthynas â gweithredu a gorfodi Darpariaethau Mewnforio (rheoliad 39);

(dd)yn peri bod rhwystro swyddog sy'n cymryd camau i weithredu Darpariaethau Mewnforio yn dramgwydd (rheoliad 40);

(dddd)yn peri bod mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 669/2009 a darpariaethau penodedig y Rheoliadau hyn, neu fethu â chydymffurfio â hwy, a methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan y Darpariaethau Mewnforio yn dramgwyddau a darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 41);

(ee)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau penodol o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 42);

(ff)yn darparu bod treuliau a godir gan awdurdod cymwys yn unol ag Erthygl 28 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (treuliau sy'n deillio o reolaethau swyddogol ychwanegol) yn daladwy gan y gweithredydd (rheoliad 43);

(ffff)yn darparu bod treuliau a godir gan awdurdod cymwys yn unol ag Erthygl 40(4) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (treuliau sy'n deillio o gymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn) yn daladwy gan y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd (rheoliad 44);

(gg)yn darparu,pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall,bod y person arall hwnnw'n euog o'r tramgwydd (rheoliad 45);

(ngng)yn darparu bod i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 46);

(hh)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaetholawedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bernir bod y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 47);

(ii)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, y bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 48);

(jj)yn darparu ar gyfer diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 49);

(ll)yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 50);

(llll)yn diwygio ymhellach Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3368 (Cy.265)) (rheoliad 51); a

(mm)yn dirymu Rheoliadau Bwyd (Tsilis, Cynhyrchion Tsilis, Cwrcwma ac Olew Palmwydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1540 (Cy.119)) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/329 (Cy.290)) (rheoliad 52).

5.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi ei wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.LL+C

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources