- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), gyda'r addasiad bod—
(i)is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a
(ii)yn is-adran (4) ystyrir bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;
(c)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(ch)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(b);
(d)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(c);
(dd)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(e)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad), at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli'r cyfeiriad at y Ddeddf yn is-adran (1) fel pe bai'n cynnwys cyfeiriadau at y Rheoliad EC.
(3) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn y darpariaethau hynny i'w ddehongli fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y Rheoliad EC a'r Rheoliadau hyn—
(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market”, yn eutrefn;
(b)adran 33(1) (rhwystro swyddogion);
(c)adran 33(2), gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b); a
(d)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(4) Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 3 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau cosbadwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: