- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9. Mewn ysgrifen ar unrhyw adeg caiff rheoleiddiwr wneud y canlynol—
(a)tynnu hysbysiad cosb ariannol benodedig yn ôl;
(b)tynnu hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cosb diffyg cydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodi yn ôl neu ostwng y swm a bennir yn yr hysbysiad;
(c)tynnu hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop yn ôl neu ddiwygio'r camau a bennir yn yr hysbysiad er mwyn lleihau faint o waith sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r hysbysiad.
10.—(1) I Dribiwnlys yr Haen Gyntaf y gwneir apêl o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Mewn unrhyw apêl (ac eithrio mewn perthynas â hysbysiad stop) lle mae cyflawni tramgwydd yn fater y mae angen penderfynu arno, rhaid i'r rheoleiddiwr brofi'r tramgwydd hwnnw yn ôl yr un baich prawf a'r un safon prawf ag mewn erlyniad troseddol.
(3) Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r tribiwnlys bennu safon y prawf.
(4) Mae pob hysbysiad (heblaw hysbysiadau stop) yn cael eu hatal nes i'r apêl gael ei chynnal.
(5) Caiff y Tribiwnlys atal neu amrywio hysbysiad stop.
(6) Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—
(a)tynnu'r gofyniad neu'r hysbysiad yn ôl;
(b)cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;
(c)amrywio'r gofyniad neu'r hysbysiad;
(ch)cymryd unrhyw gamau y gallai'r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gofyniad neu'r hysbysiad;
(d)cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y rheoleiddiwr.
11.—(1) Pan roddir pŵer i reoleiddiwr yn y Gorchymyn hwn i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd—
(a)rhaid i'r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y mae'n defnyddio'r sancsiwn;
(b)yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop, rhaid i'r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;
(c)rhaid i'r rheoleiddiwr ddiwygio'r canllawiau lle bo'n briodol;
(ch)rhaid i'r rheoleiddiwr roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
(2) Yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol benodedig, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—
(a)yr amgylchiadau y mae'r gosb yn debyg o gael ei gosod odanynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir ei gosod odanynt;
(c)swm y gosb;
(ch)sut y gall y rhwymedigaeth am y gosb gael ei chyflawni ac effaith ei chyflawni; a
(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.
(3) Yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—
(a)yr amgylchiadau y mae'r gofyniad yn debyg o gael ei osod odanynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir ei osod odanynt;
(c)yn achos cosb ariannol newidiol, y materion sy'n debyg o gael eu cymryd i ystyriaeth gan y rheoleiddiwr wrth benderfynu ar swm y gosb (gan gynnwys adroddiad gwirfoddol gan unrhyw berson am ei ddiffyg cydymffurfio ei hun); ac
(ch)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.
(4) Yn achos canllawiau ynglŷn â hysbysiad stop, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—
(a)yr amgylchiadau y mae'r rheoleiddiwr yn debyg o gyflwyno'r hysbysiad odanynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir ei gyflwyno odanynt; ac
(c)hawliau i apelio.
12. Rhaid i'r rheoleiddiwr ddyroddi canllawiau sy'n ymwneud â defnyddio cosbau diffyg cydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodi sy'n pennu—
(a)yr amgylchiadau y maent yn debyg o gael eu gosod odanynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir eu gosod odanynt;
(c)materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth bennu'r swm sydd o dan sylw;
(ch)hawliau i apelio.
13. Rhaid i'r rheoleiddiwr ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y Gorchymyn hwn.
14.—(1) Pan roddir pŵer i reoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â thramgwydd, rhaid i'r rheoleiddiwr gyhoeddi o dro i dro adroddiadau sy'n pennu—
(a)yr achosion y mae'r sancsiwn sifil wedi'i osod ynddynt;
(b)os cosb ariannol benodedig yw'r sancsiwn sifil, yr achosion lle mae'r rhwymedigaeth i'r gosb wedi'i chyflawni drwy dalu'r gosb ar ôl yr hysbysiad o fwriad a heb i ragor o gamau gael eu cymryd;
(c)os cosb ariannol newidiol, hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio yw'r sancsiwn sifil, yr achosion lle mae ymrwymiad trydydd parti wedi'i dderbyn;
(ch)achosion lle mae ymrwymiad gorfodi wedi'i wneud.
(2) Ym mharagraff (1)(a) nid yw'r cyfeiriad at achosion y mae sancsiwn sifil wedi'i osod ynddynt yn cynnwys achosion lle mae'r sancsiwn wedi'i osod ond wedi'i ddileu mewn apêl.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys mewn achosion lle mae Gweinidogion Cymru o'r farn na fyddai'n briodol cyhoeddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: