- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17.—(1) Rhaid i'r gwerthuswyr roi copi o'r datganiad gwerthuso i'r canlynol—
(a)y pennaeth;
(b)cadeirydd y corff llywodraethu;
(c)y Prif Swyddog Addysg;
(ch)unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu, disgyblu neu ddiswyddo athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwneir cais gan y llywodraethwyr hynny; a
(d)yn achos pennaeth ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998), unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwneir cais gan y swyddog neu'r cynghorydd hwnnw.
(2) Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad gwerthuso i unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am berfformiad penaethiaid yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(1), neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, ar ôl cael cais gan y swyddog neu'r cynghorydd hwnnw.
(3) Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad gwerthuso a'r datganiad amcanion i unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad apêl o dan reoliad 16(2).
(4) Pan fydd gwerthuswr newydd yn cael ei benodi heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso, rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o unrhyw ddatganiad amcanion cyfredol i'r person hwnnw.
(5) Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 15(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad y pennaeth yn yr ysgol.
(6) Rhaid i bennaeth gadw copi o ddatganiad gwerthuso am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
(7) Rhaid i'r corff llywodraethu gadw copi o ddatganiad gwerthuso'r pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: