- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
28.—(1) Rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 26(1) geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 26(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 26(5).
(2) Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig unrhyw weithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol y mae'n credu eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu lle nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau a nodwyd yn ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys gofyniad bod rhaid i'r gwerthuswr wrth iddo werthuso athro neu athrawes ysgol arsylwi ar yr athro neu'r athrawes ysgol yn addysgu o leiaf unwaith yn ystod y cylch gwerthuso.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaniateir i werthuswr gael gwybodaeth, yn ysgrifenedig ynteu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol gan neb arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ysgol yn cydsynio neu fod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: