Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw

28.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—

(a)nad yw'r myfyriwr cymwys wedi ei hepgor o fod â'r hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr cymwys yn dod odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—

(a)blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari;

(b)blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs,

(iv)pan fo cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb llawnamser, gan gynnwys presenoldeb at y diben o ymarfer addysgu, yn llai na 6 wythnos;

(v)cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sydd yn parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion bod â hawl i gael grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan reoliad 29.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys at ddibenion rheoliadau 29 i 35, i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam.

(7Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

(8At ddibenion paragraff (7), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—

(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

(d)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr cymwys sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

(e)gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o'r canlynol—

(i)yr Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf honno(1);

(ii)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf honno(2);

(iii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3);

(iv)Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol neu'r Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adrannau 7 a 12 o Ddeddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009(4);

(v)Bwrdd Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Grŵ p Comisiynu Clinigol a sefydlwyd o dan adran 1I o'r Ddeddf honno(5); neu

(vi)y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth mewn Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 neu'r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o'r Ddeddf honno(6).

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliadau 40 i 48 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.

(10Nid yw paragraff (9) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—

(a)bod y flwyddyn yn flwyddyn Erasmus; neu

(b)bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

(11Ym mharagraff (9) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 40, yw grant ar gyfer ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliadau 41 i 48, benthyciad at ffioedd.

(12Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn gyfan neu ran ohoni ond nid oes gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(13Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (15), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw'n garcharor.

(15Nid yw paragraff (14) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy'n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012.

(16Rhaid trin myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael y grantiau canlynol—

(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;

(b)grant at gostau byw myfyrwyr anabl;

(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(d)grant addysg uwch.

(17Mae paragraff (16) yn gymwys i'r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd; ac

(18myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.

(19Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell yr hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio (pan fo'n briodol) grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 29.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl

29.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu i dalu am y gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae'n ymgymryd ag ef.

(2Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy'n briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr cymwys.

(3Ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(d)£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig a bennir yn y paragraffau hynny.

(4Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu i dalu am wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (3)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.

(5Uchafswm y grant o dan baragraffau (3)(a) a (3)(d) yw £15,885 a £1,338, yn y drefn honno—

(a)os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs; a

(b)os, mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser ac ymarfer dysgu llawnamser gyda'i gilydd yn llai na 6 wythnos.

(6Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(7Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â'r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — cyffredinol

30.—(1Mae'r grantiau ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant ar gyfer dibynyddion mewn oed;

(b)grant gofal plant;

(c)lwfans dysgu ar gyfer rhieni.

(2Nodir amodau'r hawl i gael pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 31 i 34.

(3Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grantiau ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 67.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant ar gyfer dibynyddion mewn oed

31.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner i'r myfyriwr cymwys; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,923.

(3Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 34, a'r swm sylfaenol yw—

(a)£2,732; neu

(b)os yw'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant gofal plant

32.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r grant gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys yn tynnu costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi a hynny ar gyfer—

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(7) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(8).

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae'n eu tynnu'n cael eu talu, neu os ydynt i'w talu, gan y myfyriwr i bartner y myfyriwr cymwys.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

(6Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos y tynnir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i'r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy'n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu'r canlyniad â saith.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — lwfans dysgu ar gyfer rhieni

33.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes ganddo un neu fwy o ddibynyddion sy'n blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 34, a'r swm sylfaenol yw £1,557.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — eu cyfrifo

34.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael o dan reoliadau 31 i 33 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 31;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 32; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 33.

(2Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (8)—

  • A yw swm cyfanredol incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw—

    (a)

    £1,159 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;

    (b)

    £3,473 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (c)

    £4,632—

    (i)

    os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

    (ii)

    os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;

    (d)

    £5,797 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (13), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.

(4Os yw (A − B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(5Gostyngir swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(6Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(7Os yw swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy'n daladwy yw £50.

(8Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;

(d)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 28(13).

(9Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr cymwys yn y chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;

(c)a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

(10Swm y grantiau ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(11Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(12Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—

(a)yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(d), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

(b)fel arall, chwarter ac eithrio'r chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

(13Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grantiau ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — dehongli

35.—(1Yn rheoliadau 31 i 34—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (4), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr cymwys, ac eithrio plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr cymwys;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr cymwys sy'n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw'n blentyn sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr cymwys;

(f)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac y mae ganddo blentyn dibynnol;

(g)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

(h)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i), (j), (k) a pharagraffau (2) a (3) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'r person yn briod i'r myfyriwr cymwys, pan fo'r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'r person yn bartner sifil i'r myfyriwr cymwys, pan fo'r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(i)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (h) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;

(j)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), rhaid trin person fel partner os byddai'r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(k)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), rhaid trin person fel partner os byddai'r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig a bennir neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(2At ddibenion rheoliad 33—

(a)nid yw paragraff (1)(i) yn gymwys; a

(b)rhaid trin person fel partner os byddai'r person yn bartner o dan baragraff (1)(h) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(3At ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—

(a)priod i bartner myfyriwr cymwys;

(b)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;

(c)pan fo'r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn briod i B;

(d)pan fo'r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn bartner sifil i B;

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin â pherson mewn oed neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—

(a)yn ddibynnol ar—

(i)y myfyriwr cymwys yn unig; neu

(ii)partner y myfyriwr cymwys yn unig; ond

(b)yn hytrach yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol â pharagraff (4), os yw A—

(a)yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(b)yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(9);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(10);

(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(11);

(f)unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(12);

(g)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(13); ac

(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(14).

(7Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr cymwys, incwm net partner y myfyriwr cymwys yw'r incwm net a gyfrifir yn unol â pharagraff (6) wedi ei ostwng—

(a)o swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi ysgwyddo rhwymedigaeth lai.

(8At ddibenion paragraff (6), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, rhaid trin y taliadau hynny fel incwm y plentyn dibynnol.

Dehongli rheoliadau 37 i 39

36.  At ddibenion rheoliadau 37 i 39—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at wariant a dynnir at y diben o fod yn bresennol mewn sefydliad neu gyfnod astudio neu gyfnod ar leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus—

(i)yn cynnwys gwariant cyn ac ar ôl bod yn bresennol felly; a

(ii)nid yw'n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 29,

(b)ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter pan fo'r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus, am o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw.

Amodau'r hawl i gael y grant at deithio

37.—(1Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono'n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys ei dynnu mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu, mewn cysylltiad â chwrs y myfyriwr cymwys, unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol ac eithrio gwariant a dynnir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.

(2Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys ynglŷn â'r gwariant rhesymol y mae'n orfodol iddo'i dynnu ym mhob chwarter cymhwysol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus.

Swm y grant at deithio

38.—(1Mae swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 37(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yn orfodol i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £303.

(2Cyfrifir swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 37(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

lle mae—

  • X yn cynrychioli swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 37; ac

  • Y yn cynrychioli swm cyfanredol y gwariant a dynnwyd ym mhob chwarter cymhwysol ac a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gwariant a bennir, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—

(a)gwariant y mae'r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn ei dynnu wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf corfforol a ddioddefir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y cyfnod y mae'n bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus (“y lleoliad” yn y paragraff hwn);

(b)cost fisa neu fisâu y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa neu'r lleoliad; ac

(c)costau meddygol y mae'n rhesymol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i'r diriogaeth, y wlad neu'r wladwriaeth lle y mae'r sefydliad tramor, yr Athrofa neu'r lleoliad.

Didyniadau o'r grant at deithio

39.  Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 37 a 38 yn unol â Rhan 9.

Grantiau addysg uwch

40.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

(3Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.

(4Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £16,765 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £16,765 ac nad yw'n fwy na £22,750, mae'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £16,765; ac

(c)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £22,750, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.

Grant cynhaliaeth

41.—(1Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw'n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 42 at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(2Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 43 at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(3Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 44 at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(4Nid oes hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i gael grant cynhaliaeth os oes hawl gan y myfyriwr cymwys hwnnw i gael grant cymorth arbennig.

Grant cynhaliaeth — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

42.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;

(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; ac

(d)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.

(2Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw'r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £664.

(3Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw'r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £1,329.

(4Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−(A/2) pan fo RM yn £664 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

(5Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £1,329 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cynhaliaeth — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyrwyr carfan 2010 neu'n fyfyrwyr carfan 2012

43.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £2,936 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i SM−A pan fo SM yn £1,142 ac A yn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cynhaliaeth — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyrwyr carfan 2011

44.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £3,555 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i SM−A pan fo SM yn £1,761 ac A yn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £50;

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cymorth arbennig

45.—(1Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw'n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 46 mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant a achosir iddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy'n fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 47 mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant a achosir iddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(3Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy'n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 48 mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant a achosir iddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(4Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'r myfyriwr cymwys hwnnw'n dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(15), neu os trinnir ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd, a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno(16).

Grant cymorth arbennig — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

46.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan newydd, mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;

(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; ac

(d)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.

(2Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw'r myfyriwr, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £664.

(3Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw'r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £1,329

(4Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−(A/2), pan fo RM yn £664 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852; ac

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

(5Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £1,329 ac A yn £1 am bob £8.97 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Grant cymorth arbennig — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyrwyr carfan 2010 neu'n fyfyrwyr carfan 2012

47.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £2,936 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i SM−A pan fo SM yn £1,142 ac A yn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Grant cymorth arbennig — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyrwyr carfan 2011

48.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £3,555 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i SM−A pan fo SM yn £1,761 ac A yn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

(3)

1978 p.29, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(5)

2006 p.41; mewnosodwyd adrannau 1H ac 1I gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7), adrannau 9 a 10.

(7)

1996 p.56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 23 ac Atodlen 8, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 56, Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Atodlen 1, paragraff 3, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 59 ac Atodlen 2 ac O.S. 2010/1158.

(8)

2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

1992 p.4, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

1989 p.41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49(3) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7.

(12)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) yn adran 23C mewn perthynas â Chymru, ac mae O.S. 2010/1329 (Cy.112) (C.81) ac O.S. 2011/ 824 (Cy. 123) (C. 32) yn cyfeirio at hyn.

(13)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(14)

2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(15)

1992 p.4. Gwnaed newidiadau i adran 124 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Mae'r categorïau o dan adran 124(1)(e) wedi eu rhagnodi mewn rheoliadau. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O. S. 1997/2197, O.S. 2000/636, O.S. 2000/1981, O.S. 2001/3070, O.S. 2006/2144, O.S. 2008/1826, O.S. 2009/583, O.S. 2009/2655 ac O.S. 2009/3152.

(16)

Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Cymhorthdal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/718, O.S. 2008/1042, O.S. 2008/1082, O.S. 2009/583 ac O.S. 2010/641).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources