- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), dirymir Rheoliadau (Rhif 2) 2011 mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2013.
(2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.
(3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.
(4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
(5) Mae Rheoliadau 2006 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(6) Mae Rheoliadau 2007 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.
(7) Mae Rheoliadau 2008 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.
(8) Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.
(9) Mae Rheoliadau 2009 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.
(10) Mae Rheoliadau 2011 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.
(11) Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2011 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ond cyn 1 Medi 2013.
(12) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—
(a)Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1); neu
(b)Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.
(13) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2013.
(14) Pan fo person—
(a)yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu
(b)heb gael dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â phresenoldeb y person hwnnw ar gwrs, ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi ei roi pe bai'r person wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai adnoddau'r person wedi bod yn fwy na'i anghenion,
rhaid trin y person hwnnw fel myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 o'r Rheoliadau hyn, mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu y byddid wedi ei roi) wedi ei drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf y cwrs, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.
(15) Oni bai bod paragraff (16) yn gymwys i'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (14), bydd hawl gan y person hwnnw i gael cymorth ar ffurf benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn os yw'r person hwnnw—
(a)yn fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)yn bodloni amodau'r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno.
(16) Os cafodd person fenthyciad, neu os oedd person yn gymwys i gael benthyciad o ran blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998 rhaid trin y person hwnnw fel myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn mewn cysylltiad ag—
(a)y cwrs hwnnw; neu
(b)unrhyw gwrs dynodedig dilynol (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) y mae'r person yn cychwyn arno, yn union ar ôl terfynu'r cwrs hwnnw,
er gwaethaf unrhyw ddarpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn.
(17) Oni bai bod paragraff (14) yn gymwys i'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (16), bydd hawl gan y person hwnnw i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5 o'r Rheoliadau hyn os yw'r person hwnnw—
(a)yn fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)yn bodloni'r amodau hawl perthnasol i gael cymorth o dan y Rhannau hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: