- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
56.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—
(a)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o'r fath—
(i)yng nghategori 1, yn £1,893;
(ii)yng nghategori 2, yn £3,547;
(iii)yng nghategori 3, yn £2,522;
(iv)yng nghategori 4, yn £2,522;
(v)yng nghategori 5, yn £2,522.
(b)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(5), ar gyfer myfyriwr o'r fath—
(i)yng nghategori 1, yn £1,893;
(i)yng nghategori 2, yn £3,547;
(ii)yng nghategori 3, yn £3,017;
(iii)yng nghategori 4, yn £3,017;
(iv)yng nghategori 5, yn £2,522.
(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i X-Y pan fo—
X i fyfyriwr o'r fath—
yng nghategori 1, yn £2,990;
yng nghategori 2, yn £5,412;
yng nghategori 3, yn £4,606;
yng nghategori 4, yn £4,606;
yng nghategori 5, yn £3,863;
Y yw'r swm penodedig ym mharagraff (d).
(d)y swm penodedig yw—
(i)£664, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;
(ii)£1,329, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;
(iii)dim, pan nad yw'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—
(a)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o'r fath—
(i)yng nghategori 1, yn £1,437;
(ii)yng nghategori 2, yn £2,711;
(iii)yng nghategori 3, yn £1,966;
(iv)yng nghategori 4, yn £1,966;
(v)yng nghategori 5, yn £1,966.
(b)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(5), ar gyfer myfyriwr o'r fath—
(ii)yng nghategori 1, yn £1,437;
(i)yng nghategori 2, yn £2,711;
(ii)yng nghategori 3, yn £2,204;
(iii)yng nghategori 4, yn £2,204;
(iv)yng nghategori 5, yn £1,966.
(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i X-Y pan fo—
X i fyfyriwr o'r fath—
yng nghategori 1, yn £2,706;
yng nghategori 2, yn £4,928;
yng nghategori 3, yn £4,005;
yng nghategori 4, yn £4,005;
yng nghategori 5, yn £3,578;
Y yw'r swm penodedig ym mharagraff (d).
(d)y swm penodedig yw—
(i)£664 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;
(ii)£1,329 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;
(iii)dim, pan nad fo'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: