- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a phan nad yw'n fyfyriwr carfan newydd, y cyfraniad sy'n daladwy yw—
(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £39,793, £1 am bob £9.27 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £39,793; a
(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.
(2) Pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac yn fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012, y cyfraniad sy'n daladwy yw—
(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £50,778, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,778; a
(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,778 neu lai, dim.
(3) Pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac yn fyfyriwr carfan 2011, y cyfraniad sy'n daladwy yw—
(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £50,503, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,503; a
(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,503 neu lai, dim.
(4) Rhaid i'r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.
(5) Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.
(6) Pan fo is-baragraff (7) yn gymwys, rhaid i swm cyfanredol y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.
(7) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu
(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: