Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

18.  Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—

RHAN 4 —GWYBODAETH AM BENDERFYNIADAU YNGHYLCH HAWLENNI

Dehongli

16.  Yn y Rhan hon—

ystyr “hawlen” (“permit”) yw unrhyw gofrestriad, esemptiad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad, cydnabyddiaeth neu awdurdodiad arall, sut bynnag y'i disgrifir;

ystyr “penderfyniad ynghylch hawlenni” (“permitting decision”) yw unrhyw benderfyniad—

(a)

i roi neu i wrthod cais am hawlen;

(b)

i atal, amrywio neu ddirymu hawlen.

Cynlluniau cyhoeddi gwybodaeth

17.(1) Rhaid i'r Corff—

(a)datblygu, mabwysiadu a chynnal cynllun (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel “cynllun cyhoeddi”) ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth am y canlynol—

(i)ceisiadau am hawlenni a wneir i'r Corff; a

(ii)penderfyniadau ynghylch hawlenni a wneir gan y Corff;

(b)cyhoeddi gwybodaeth yn unol â'i gynllun cyhoeddi;

(c)adolygu ei gynllun cyhoeddi o dro i dro.

(2) Rhaid i gynllun cyhoeddi—

(a)pennu dosbarthiadau o wybodaeth y mae'r Corff yn eu cyhoeddi neu'n bwriadu eu cyhoeddi, y mae'n rhaid iddynt gynnwys gwybodaeth am bob cais am hawlen a wneir gan y Corff mewn achosion lle mae'r Corff yn gyfrifol am benderfynu ar y cais;

(b)pennu ym mha fodd y cyhoeddir, neu y bwriedir cyhoeddi, yr wybodaeth ym mhob dosbarth, ac o fewn pa gyfnod amser;

(c)pennu a yw'r deunyddiau ar gael, neu a fwriedir iddynt fod ar gael, i'r cyhoedd yn ddi-dâl.

(3) Wrth ddatblygu, mabwysiadu neu adolygu cynllun cyhoeddi, rhaid i'r Corff—

(a)ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n ystyried eu bod yn briodol;

(b)rhoi sylw i'r buddiant cyhoeddus yn y canlynol—

(i)caniatáu i'r cyhoedd fynediad at wybodaeth sydd gan y Corff; a

(ii)cyhoeddi gwybodaeth am geisiadau am hawlenni a wnaed i'r Corff a phenderfyniadau ynghylch hawlenni a wnaed gan y Corff.

(4) Rhaid i gynllun cyhoeddi gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod cymeradwyo cynllun cyhoeddi arfaethedig rhaid iddynt roi datganiad o'u rhesymau dros wrthod gwneud hynny i'r Corff.

(6) Rhaid i'r Corff gyhoeddi ei gynllun cyhoeddi ar ei wefan a threfnu bod copïau o'r cynllun ar gael os gwneir cais amdanynt.

(7) Mae'r erthygl hon heb ragfarn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd arall sydd gan y Corff i gyhoeddi gwybodaeth neu i'w datgelu.

Hysbysiadau i Weinidogion Cymru ynghylch hunan-ganiatáu hawlenni

18.(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gais am hawlen y mae'r cyfan o'r amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef—

(a)y Corff yw'r ymgeisydd;

(b)y Corff sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais;

(c)y caniateir i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd i'r cais gael ei gyfeirio atynt hwy i gael ei benderfynu.

(2) Rhaid i'r Corff hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais ar yr adeg pan fydd yn gwneud y cais.