- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
18. Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—
16. Yn y Rhan hon—
ystyr “hawlen” (“permit”) yw unrhyw gofrestriad, esemptiad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad, cydnabyddiaeth neu awdurdodiad arall, sut bynnag y'i disgrifir;
ystyr “penderfyniad ynghylch hawlenni” (“permitting decision”) yw unrhyw benderfyniad—
i roi neu i wrthod cais am hawlen;
i atal, amrywio neu ddirymu hawlen.
17.—(1) Rhaid i'r Corff—
(a)datblygu, mabwysiadu a chynnal cynllun (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel “cynllun cyhoeddi”) ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth am y canlynol—
(i)ceisiadau am hawlenni a wneir i'r Corff; a
(ii)penderfyniadau ynghylch hawlenni a wneir gan y Corff;
(b)cyhoeddi gwybodaeth yn unol â'i gynllun cyhoeddi;
(c)adolygu ei gynllun cyhoeddi o dro i dro.
(2) Rhaid i gynllun cyhoeddi—
(a)pennu dosbarthiadau o wybodaeth y mae'r Corff yn eu cyhoeddi neu'n bwriadu eu cyhoeddi, y mae'n rhaid iddynt gynnwys gwybodaeth am bob cais am hawlen a wneir gan y Corff mewn achosion lle mae'r Corff yn gyfrifol am benderfynu ar y cais;
(b)pennu ym mha fodd y cyhoeddir, neu y bwriedir cyhoeddi, yr wybodaeth ym mhob dosbarth, ac o fewn pa gyfnod amser;
(c)pennu a yw'r deunyddiau ar gael, neu a fwriedir iddynt fod ar gael, i'r cyhoedd yn ddi-dâl.
(3) Wrth ddatblygu, mabwysiadu neu adolygu cynllun cyhoeddi, rhaid i'r Corff—
(a)ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n ystyried eu bod yn briodol;
(b)rhoi sylw i'r buddiant cyhoeddus yn y canlynol—
(i)caniatáu i'r cyhoedd fynediad at wybodaeth sydd gan y Corff; a
(ii)cyhoeddi gwybodaeth am geisiadau am hawlenni a wnaed i'r Corff a phenderfyniadau ynghylch hawlenni a wnaed gan y Corff.
(4) Rhaid i gynllun cyhoeddi gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod cymeradwyo cynllun cyhoeddi arfaethedig rhaid iddynt roi datganiad o'u rhesymau dros wrthod gwneud hynny i'r Corff.
(6) Rhaid i'r Corff gyhoeddi ei gynllun cyhoeddi ar ei wefan a threfnu bod copïau o'r cynllun ar gael os gwneir cais amdanynt.
(7) Mae'r erthygl hon heb ragfarn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd arall sydd gan y Corff i gyhoeddi gwybodaeth neu i'w datgelu.
18.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gais am hawlen y mae'r cyfan o'r amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef—
(a)y Corff yw'r ymgeisydd;
(b)y Corff sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais;
(c)y caniateir i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd i'r cais gael ei gyfeirio atynt hwy i gael ei benderfynu.
(2) Rhaid i'r Corff hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais ar yr adeg pan fydd yn gwneud y cais.”
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: