Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

RHAN 2Deddfau Lleol

Dehongli

469.  Yn y Rhan hon, ystyr “cyfeiriad perthnasol” (“relevant reference”) yw cyfeiriad sy'n cael effaith fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd.

Deddf Cadwraeth Dyfrdwy 1889 (p. clvi)

470.  Yn Neddf Cadwraeth Dyfrdwy 1889, mae unrhyw gyfeiriad perthnasol i'w drin fel cyfeiriad at Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.

Deddf Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd 1973 (p. xxix)

471.  Yn Neddf Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd 1973, mae unrhyw gyfeiriad perthnasol i'w drin fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.