Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005
11.—(1) Mae person sy'n arolygydd at ddibenion Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(1) yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei ystyried yn arolygydd wedi hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr a chan Weinidogion Cymru.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar bwerau'r Comisiynwyr na Gweinidogion Cymru i ddirymu, ar y dyddiad trosglwyddo neu wedi hynny, unrhyw awdurdodiad sydd gan berson neu i adnewyddu'r awdurdodiad hwnnw wedi hynny.
(1)
O.S. 2005/2517 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2696, O.S. 2008/644, O.S. 2009/594, O.S. 2009/3020.