Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010
12.—(1) Yn y paragraff hwn—
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008;
ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010(1) fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.
(2) Mae adran 67 o Ddeddf 2008 yn gymwys i Orchymyn 2010—
(a)fel pe bai cyfnod o un flwyddyn wedi ei roi yn lle cyfnod o dair blynedd yn is-adran (2); a
(b)fel pe bai unrhyw ddarpariaeth yng Ngorchymyn 2010 i roi pŵer i reoleiddiwr i osod sancsiwn sifil ar gyfer trosedd—
(i)wedi ei gwneud o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf 2008; a
(ii)wedi dod i rym ar y dyddiad trosglwyddo.