Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy’n ymwneud â bridio cŵn. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn diffinio bridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p. 45) (“y Ddeddf”). Canlyniad y dynodiad hwnnw, yn ddarostyngedig i griteria cymhwyso, yw bod rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno bridio cŵn yng Nghymru gael trwydded gan ei awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae’r gofyniad hwn yn disodli’r gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru.

Mae person sy’n bridio cŵn yng Nghymru heb drwydded o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd o dan adran 13(6) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac yn agored i gael ei garcharu am gyfnod hyd at 6 mis, dirwy neu’r ddau. O dan adran 30 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 caiff awdurdodau lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Ddeddf.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn pennu sut y gall person wneud cais i’r awdurdod lleol am drwydded ac mae’n pennu materion y mae’n rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hunan ynglŷn â hwy wrth ystyried rhoi ac adnewyddu trwydded. Mae’n darparu y caiff awdurdod lleol godi ffioedd i ddiwallu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir wrth gyflawni’r swyddogaeth hon, ac wrth fonitro cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau hyn. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 4 yn pennu o dan ba amgylchiadau y ceir atal dros dro, amrywio neu ddirymu trwydded. Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau trwyddedu gan awdurdodau lleol.

Mae Rhan 6 yn darparu bod torri amod trwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn yn drosedd. Mae’n darparu pwerau i arolygwyr gymryd samplau a mynd i mewn i fangreoedd ac yn cymhwyso pwerau perthnasol, yn dilyn collfarn, sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf. Mae’n darparu ar gyfer gorfodi’r Rheoliadau hyn gan yr awdurdodau lleol. Mae’n darparu bod trwyddedau a roddir o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yn parhau i gael effaith fel pe baent yn cael eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r amodau trwydded gorfodol y mae’n rhaid eu gosod ar bob trwydded a roddir gan awdurdod lleol.

Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Bridio Cŵn 1973 ac yn diwygio cyfeiriadau ati mewn 4 Deddf o ganlyniad i diddymu adran 1(1) o’r Ddeddf honno mewn perthynas â Chymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources