- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14. Caiff awdurdod lleol atal dros dro neu amrywio trwydded ar unrhyw adeg os bodlonir yr awdurdod lleol—
(a)nad yw’r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(1)(a) i (d) wedi eu bodloni;
(b)na chydymffurfir ag amodau’r drwydded;
(c)y cyflawnwyd toriad o’r Rheoliadau hyn;
(d)bod gwybodaeth a gyflenwyd gan y deiliad trwydded yn ffug; neu
(e)bod atal dros dro neu amrywio’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles ci.
15.—(1) Bydd atal dros dro neu amrywio trwydded o dan reoliad 14 yn cael effaith ar ddiwedd y cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda diwrnod cyflwyno’r hysbysiad o’r ataliad dros dro neu’r amrywiad.
(2) Os yw’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles anifail, caiff yr awdurdod lleol bennu yn yr hysbysiad fod yr ataliad dros dro neu’r amrywiad i gael effaith ar unwaith.
(3) Raid i hysbysiad o ataliad dros dro neu amrywiad—
(a)datgan seiliau’r awdurdod lleol dros atal dros dro neu amrywio;
(b)datgan pa bryd y daw’r ataliad dros dro neu’r amrywiad i rym;
(c)pennu pa gamau, ym marn yr awdurdod lleol, y mae’n angenrheidiol eu cymryd er mwyn ymateb i’r seiliau; a
(d)esbonio bod hawl gan y deiliad trwydded i wneud sylwadau ysgrifenedig o dan baragraff (4), rhoi iddo fanylion y person y dylid cyflwyno’r sylwadau hynny iddo, a datgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid eu cyflwyno.
(4) Os nad yw’r hysbysiad i gael effaith ar unwaith, caiff y deiliad trwydded gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn gwrthwynebu’r hysbysiad, i’r awdurdod lleol o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflwyno’r hysbysiad.
(5) Os gwneir sylwadau o dan baragraff (4), ni fydd yr ataliad dros dro neu’r amrywiad yn cael effaith hyd nes bo’r awdurdod lleol wedi ystyried y sylwadau ac wedi penderfynu arnynt yn unol â pharagraff (6).
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol wneud penderfyniad ar y sylwadau, a hysbysu’r deiliad trwydded o’r penderfyniad hwnnw mewn ysgrifen, gan roi rhesymau, o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y mae’r awdurdod yn cael y sylwadau hynny.
(7) Os yw trwydded wedi ei atal dros dro am fwy na 28 niwrnod, rhaid i awdurdod lleol—
(a)adfer y drwydded honno a ataliwyd dros dro; neu
(b)dirymu’r drwydded honno a ataliwyd dros dro.
16.—(1) Rhaid i awdurdod lleol, drwy hysbysiad, adfer trwydded a ataliwyd dros dro, unwaith y’i bodlonir bod y seiliau a bennwyd yn yr hysbysiad o ataliad dros dro wedi eu datrys, neu y byddant yn cael eu datrys.
(2) Wrth adfer trwydded o dan baragraff (1) ceir amrywio’r cyfnod y dyroddir y drwydded ar ei gyfer ond ni cheir estyn y drwydded y tu hwnt i 1 flwyddyn o’r dyddiad y cafodd ei hadfer.
17.—(1) Caiff awdurdod lleol ddirymu trwydded os bodlonir yr awdurdod lleol—
(a)nad yw’r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(1)(a) i (d) wedi eu bodloni;
(b)na chydymffurfir ag amodau’r drwydded;
(c)y cyflawnwyd toriad o’r Rheoliadau hyn;
(d)bod gwybodaeth a gyflenwyd gan y deiliad trwydded yn ffug; neu
(e)bod dirymu’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles ci.
(2) Os anghymhwysir deiliad trwydded o dan unrhyw un o’r deddfiadau yn rheoliad 10, dirymir trwydded y deiliad hwnnw yn awtomatig pan fo’r cyfnod o amser a ganiateir ar gyfer unrhyw apêl yn dod i ben, neu os gwneir apêl, pan wrthodir yr apêl honno.
18. Rhaid i hysbysiad dirymu—
(a)datgan seiliau’r awdurdod lleol dros ddirymu;
(b)datgan pa bryd y daw’r dirymiad i rym; a
(c)nodi bod hawl i apelio i lys ynadon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: