- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
20. Caiff arolygydd, at y diben o sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau’r Rheoliadau hyn, gymryd samplau o boer neu o flew unrhyw gi sydd mewn mangre a feddiannir gan y deiliad trwydded, ar gyfer cynnal profion DNA.
21. Rhaid i’r deiliad trwydded gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan arolygydd, i hwyluso adnabod ac archwilio ci a chymryd samplau yn unol â rheoliad 20 ac, yn benodol, trefnu i gorlannu ci os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd.
22.—(1) Cyflawnir trosedd os yw person, heb awdurdod cyfreithiol nac esgus, yn mynd yn groes i unrhyw amod trwyddedu.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored, ar gollfarn ddiannod, i gyfnod yn y carchar nad yw’n hwy na 6 mis, dirwy nad yw’n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
23. Rhaid trin toriad o amod trwydded fel trosedd berthnasol yn yr ystyr a roddir i “relevant offence” at ddibenion adran 23 o’r Ddeddf (mynd i mewn a chwilio o dan warant mewn cysylltiad â throseddau).
24. Mae’r pwerau perthnasol sy’n dilyn collfarn, a gynhwysir yn adrannau 34 a 42 o’r Ddeddf, yn gymwys mewn perthynas â chollfarn am drosedd o dorri amod trwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
25. Bydd trwydded a roddwyd o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yn parhau i gael effaith fel pe bai’n drwydded a roddwyd o dan reoliad 5.
26. Mae Atodlen 2 (diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.
27. Gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: