- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Rhaid i’r deiliad trwydded weithredu rhaglen wella a chyfoethogi a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol.
2. Rhaid i’r deiliad trwydded weithredu rhaglen gymdeithasoli a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol.
3. Rhaid i’r deiliad trwydded gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu cŵn rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefyd.
4. Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau nad yw gast fridio—
(a)yn cael ei pharu cyn ei bod yn 12 mis oed;
(b)yn rhoi genedigaeth i fwy nag un torllwyth o gŵn bach o fewn cyfnod o 12 mis; nac
(c)yn rhoi genedigaeth i gyfanswm o fwy na 6 torllwyth o gŵn bach.
5. Rhaid i’r deiliad trwydded barhau’n berchennog ac yn feddiannwr unrhyw gi bach yn y fangre a feddiannir gan y deiliad trwydded hyd nes bo’r ci bach yn 56 diwrnod oed, o leiaf.
6.—(1) Rhaid i’r deiliad trwydded gynnal cofnod ysgrifenedig mewn perthynas â phob gast fridio a gedwir, gan nodi—
(a)ei henw;
(b)ei dyddiad geni;
(c)ei brid;
(d)disgrifiad ffisegol ohoni, gan gynnwys ei lliw a’i nodweddion adnabod;
(e)ei statws iechyd;
(f)manylion paru, gan gynnwys;
(i)mewn perthynas â’r tad, yr wybodaeth y mae is-baragraff 1(a) i (e) yn ei gwneud yn ofynnol;
(ii)mewn perthynas â phob ci bach a anwyd—
(aa)dyddiad geni;
(bb)pa bryd y trosglwyddwyd perchenogaeth, ac enw a chyfeiriad y perchennog newydd.
(2) Pan drosglwyddir perchenogaeth gast fridio, rhaid i’r deiliad trwydded gofnodi enw, cyfeiriad a rhif teleffon y perchennog newydd yn y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) a rhaid i’r deiliad trwydded ddarparu copi o’r cofnod hwnnw i’r perchennog newydd a chadw copi ohono ei hunan.
(3) Rhaid i’r cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fod ar gael i’w archwilio a rhaid i’r deiliad trwydded ddal gafael ynddo drwy gydol oes yr ast fridio.
7.—(1) Rhaid i’r deiliad trwydded gynnal cofnod ysgrifenedig sy’n cadarnhau’r manylion canlynol mewn perthynas â phob ci bach sydd yn y fangre a feddiannir gan y deiliad trwydded:
(a)rhyw;
(b)dyddiad geni;
(c)brid;
(d)disgrifiad ffisegol gan gynnwys lliw a nodweddion adnabod;
(e)statws iechyd;
(f)mewn perthynas â’r fam, yr wybodaeth y mae amod 6(1)(a) i (e) yn ei gwneud yn ofynnol; a
(g)mewn perthynas â’r tad, yr wybodaeth y mae amod 6(1)(a) i (e) yn ei gwneud yn ofynnol.
(2) Pan drosglwyddir perchenogaeth ci bach, rhaid i’r deiliad trwydded gofnodi enw, cyfeiriad a rhif teleffon y perchennog newydd yn y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) a rhaid i’r deiliad trwydded ddarparu copi o’r cofnod hwnnw i’r perchennog newydd a chadw copi ohono ei hunan.
(3) Rhaid i’r cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fod ar gael i’w archwilio gan yr awdurdod lleol ar unrhyw adeg, a rhaid i’r deiliad trwydded ddal gafael ynddo am 3 blynedd ar ôl geni’r ci bach.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: