Search Legislation

Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)

3.—(1Mae Rhan 11 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 6A (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig)—

(a)ym mharagraff (2) o’r testun Saesneg, o flaen “which they are” mewnosoder “to”; a

(b)ar ôl paragraff (13) mewnosoder—

(14) Mewn cysylltiad â’r cyfraniadau pensiwn y cyfeirir atynt ym mharagraff (12), mae llog yn daladwy mewn cysylltiad â chyfraniadau sy’n daladwy o 6 Ebrill 2006 ymlaen, a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, tan y dyddiad y mae’r person yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod safonol (“y cyfnod safonol tybiedig”).

(15) Mae llog yn daladwy mewn cysylltiad â’r cyfraniad pensiwn sy’n ofynnol i’w dalu mewn cysylltiad â gwasanaeth aelod arbennig yn ystod y cyfnod safonol tybiedig, fel a ganlyn—

(a)at ddibenion cyfrifo’r llog o dan y paragraff hwn, rhaid rhagdybio mewn cysylltiad â’r cyfnod safonol tybiedig fod cyfraniadau pensiwn yn daladwy drwy gyfraniadau cyfnodol misol, o’r dyddiad y byddai cyfraniad misol safonol cyntaf yr aelod wedi ei dalu;

(b)mae llog yn dechrau cronni o’r dyddiad y byddai’r cyfraniad misol cyntaf wedi ei dalu yn unol ag is-baragraff (a) ac mae’n peidio â chronni ar y dyddiad y mae’r cyfraniad ar ffurf cyfandaliad neu’r cyfraniad cyfnodol terfynol yn cael ei dalu yn unol â pharagraffau (2), (4), (5) ac (8) o’r rheol hon;

(c)mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig a delir drwy gyfraniad ar ffurf cyfandaliad, rhaid cyfrifo’r llog drwy gymhwyso’r gyfradd llog gynt i’r cyfraniad sy’n daladwy yn unol â rheol 3(1) o Ran 11, gyda’r adlog misol rhwng y mis y byddai pob cyfraniad wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a), hyd y dyddiad cyfrifo;

(ch)mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig a delir drwy gyfraniad cyfnodol—

(i)rhaid cyfrifo’r llog yn yr un modd ag ar gyfer cyfraniad ar ffurf cyfandaliad o dan is-baragraff (c);

(ii)rhaid addasu swm y llog sy’n daladwy wedyn yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun er mwyn caniatáu ar gyfer llog ar gyfradd llog y dyfodol, mewn perthynas â’r cyfnod o’r dyddiad cyfrifo hyd at y dyddiad y telir y cyfraniad, er mwyn diwallu atebolrwydd dros gyfnod o ddeng mlynedd;

(d)at ddibenion y rheol hon—

ystyr “cyfradd llog y dyfodol” (“future interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth ag 1.5% plws mynegai arenillion Gilt 10 mlynedd y DU Actiwariaid FTSE llai cyfartaledd mynegai Gilt 5 i 15 mlynedd cysylltiedig â Mynegai y DU Actiwiariaid FTSE gyda chyfraddau chwyddiant tybiedig o 0% a 5%;

ystyr “cyfradd llog gynt” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â’r llog a oedd ar gael ar y dyroddiad diweddaraf o’r tystysgrifau cynilo llog sefydlog pum mlynedd gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, sydd ar gael ar y 15fed diwrnod o bob mis, a fyddai wedi bod yn gymwys i’r cyfnod dan sylw;

ystyr “cyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig” (“assumed standard period pension contributions”) yw’r cyfraniad pensiwn sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth aelod arbennig yn ystod y cyfnod safonol tybiedig o dan reol 6A o Ran 11;

ystyr “dyddiad cyfrifo” (“calculation date”) yw—

(a)

yn achos cyfraniad ar ffurf cyfandaliad, y dyddiad y telir y cyfandaliad; a

(b)

yn achos talu’r cyfraniad pensiwn cyfnod safonol tybiedig drwy gyfraniad cyfnodol, y dyddiad pan ymunodd yr aelod â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

(3Yn rheol 6B (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig: darpariaeth atodol), ar ddiwedd paragraff (12) mewnosoder “ac eithrio pan wneir dewisiad gan aelod cofrestredig dros dro, ac mewn achos o’r fath ni chaiff y dewisiad gymryd effaith ar ôl 29 Chwefror 2016”.

(4Ar ôl rheol 6B mewnosoder—

Dewis prynu gwasanaeth: cofrestru dros dro

6C.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff (2) o’r rheol hon yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod cofrestredig dros dro ar 31 Mawrth 2015.

(2) Yr amodau yw—

(a)ar neu cyn 31 Mawrth 2015—

(i)bod y person wedi ei hysbysu gan yr awdurdod y gallai fod hawl ganddo i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig, yn unol â rheol 5A(4) o’r Rhan hon; neu

(ii)bod yr awdurdod, y cyfeirir ato yn rheol 5A(4) o’r Rhan hon, wedi cael gan y person gais am ddatganiad o wasanaeth, yn unol â rheol 5A(5) o’r Rhan hon.

(3) Ni chaiff person ddod yn aelod cofrestredig dros dro os yw’r person, ar neu cyn 31 Mawrth 2015—

(a)wedi dod yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn;

(b)wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’n dymuno gwneud dewisiad i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig; neu

(c)wedi ei hysbysu gan yr awdurdod nad yw bellach yn gymwys i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

(4) Ar neu cyn 31 Mai 2015 rhaid i’r awdurdod roi i aelod cofrestredig dros dro hysbysiad fel y cyfeirir ato o dan reol 5A(13) o’r Rhan hon, onid yw’r awdurdod eisoes wedi darparu hysbysiad o’r fath i’r person hwnnw.

(5) Yn ddarostyngedig i reol 6B(12) o’r Rhan hon—

(a)os yw aelod cofrestredig dros dro yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod o’i ddewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o’r Rhan hon, bydd y dewisiad yn cymryd effaith ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael yr hysbysiad o’r dewisiad, a bydd y person yn peidio â bod yn aelod cofrestredig dros dro o’r Cynllun hwn ac yn dod yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn;

(b)os nad yw aelod cofrestredig dros dro yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod ar neu cyn 29 Chwefror 2016 o’i ddewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o’r Rhan hon, mae’r person yn peidio â bod yn aelod cofrestredig dros dro o’r Cynllun hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources