Search Legislation

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN ACyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Ionawr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2018.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y mae trethdalwr wedi cyflwyno hysbysiad mewn cysylltiad â hi yn unol ag erthygl 14;

mae “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys—

(a)

cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig;

(b)

cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd at ddefnydd anfon neu gael cyfathrebiadau neu signalau eraill a drosglwyddir drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebiadau electronig, neu sy’n cynnwys y defnydd hwnnw;

(c)

llinellau;

(d)

strwythurau eraill (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) neu bethau a ddefnyddir, a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig; ac

(e)

unrhyw offer atodol a gaiff ei feddiannu at ddiben person a drwyddedir o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddiwifr 2006(1) neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer hynny;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(2);

ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament—

(a)

a ddefnyddir ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebiadau electronig, a dim ond ar gyfer hynny;

(b)

sy’n gaban glan môr neu’n swyddfa bost;

(c)

y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o Ddeddf 1988(3) yn gymwys iddo (elusennau neu glybiau chwaraeon cymunedol amatur);

(d)

y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 47(5B) o Ddeddf 1988(4) yn gymwys iddo (sefydliadau dielw);

(e)

sy’n hereditament a eithrir fel y diffinnir “excepted hereditament” yn adran 47(9) o Ddeddf 1988(5);

(f)

sy’n hereditament y Goron fel y diffinnir “Crown hereditament” yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988(6);

ystyr “hereditament cymwys” (“qualifying hereditament”) yw hereditament sy’n dod o fewn erthygl 12(1)(c) o’r Gorchymyn hwn;

ystyr “llinell” (“line”) yw unrhyw wifren, unrhyw gebl, unrhyw diwb, unrhyw bibell neu unrhyw beth tebyg (gan gynnwys ei chasin neu ei gasin neu ei gorchudd neu ei orchudd) a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio neu ei ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu unrhyw rwydwaith cyfathrebiadau electronig neu wasanaethau cyfathrebiadau electronig;

mae “llofnod” (“signature”), “llofnodi” (“sign”) neu “llofnodwyd” (“signed”), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir yn unol ag erthygl 13(3) neu 14(6) drwy gyfathrebiad electronig, yn cynnwys ymgorffori yn yr hysbysiad, neu gysylltu’n rhesymegol â’r hysbysiad, lofnod electronig, fel y diffinnir “electronic signature” yn adran 7(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;

ystyr “person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr” (“person authorised to sign on behalf of the ratepayer”), pan fo’r trethdalwr—

(a)

yn bartneriaeth, yw partner i’r bartneriaeth honno;

(b)

yn ymddiriedolaeth, yw ymddiriedolwr i’r ymddiriedolaeth honno;

(c)

yn gorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr i’r corff hwnnw, ac

mewn unrhyw achos arall, yw person sydd wedi ei awdurdodi’n briodol i lofnodi ar ran y trethdalwr;

nid yw “strwythur” (“structure”) ond yn cynnwys adeilad os mai unig ddiben yr adeilad hwnnw yw amgáu cyfarpar cyfathrebiadau electronig arall;

ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “public post office” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000(7).

Darpariaeth gyffredinol ynghylch cymhwyso’r Gorchymyn hwn

3.  Pan fo hereditament yn cydymffurfio â’r amodau mewn mwy nag un o erthyglau 7, 8 neu 9, yr erthygl sy’n gymwys yw’r erthygl sy’n cael yr effaith mai’r swm isaf sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r hereditament.

Hysbysu am hereditamentau lluosog

4.  Pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig leol sy’n bodloni’r amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) yn unig, rhaid i’r trethdalwr hysbysu’r awdurdod bilio ar gyfer y rhestr honno am yr hereditamentau hynny yn unol ag erthygl 13.

Uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi

5.  At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £20,500.

(1)

2006 p. 36. Diwygiwyd adran 8 gan O.S. 2011/1210.

(2)

Mae adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (p. 7) yn darparu mai ystyr “electronic communication” yw cyfathrebiad a drosglwyddir (pa un ai o un person i berson arall, o un ddyfais i ddyfais arall, neu o berson i ddyfais neu i’r gwrthwyneb)—

(a) drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebiadau electronig, neu

(b) drwy gyfrwng arall ond mewn ffurf electronig.

(3)

Diwygiwyd adran 43(6) gan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26), ac adran 1177 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4), a pharagraffau 206 a 207 o Ran 2 o Atodlen 1 iddi.

(4)

Mewnosodwyd adran 47(5B) gan adran 69 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(5)

Diwygiwyd adran 47(9) gan baragraff 65 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14).

(6)

Mewnosodwyd adran 65A gan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29). Diwygiwyd is-adran (4) gan baragraff 73 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16) a chan baragraffau 180 a 181 o Atodlen 16 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13).

(7)

2000 p. 26. Mewnosodwyd y diffiniad o “public post office” i is-adran (1) gan baragraff 49(1) o Atodlen 12 i Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (p. 5).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources