- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 3(1)(aa) (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cyffredinol) mewnosoder—
“(ab)gosod llinell drydan uwchben y ddaear;”.
(3) Yn rheoliad 4 (gorsafoedd cynhyrchu)—
(a)ym mharagraffau (1) a (2) yn lle “50 megawat” rhodder “350 megawat”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)yn y diffiniad o “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) ar ôl “ond nid yw’n cynnwys gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir” mewnosoder “na chyfleuster sy’n cynhyrchu trydan o ynni wedi ei storio”;
(ii)mewnosoder yn y mannau priodol—
““cyfleuster storio hydrodrydan â phwmp” (“a pumped hydroelectric storage facility”) yw cyfleuster sy’n storio ynni disgyrchol potensial dŵr sydd wedi cael ei bwmpio i lefel uwch er mwyn defnyddio ei gwymp yn ôl i’r lefel is i gynhyrchu trydan;”;
“ystyr “ynni wedi ei storio” (“stored energy”) yw ynni—
a drawsnewidiwyd o drydan; a
sy’n cael ei storio at ddiben ei aildrawsnewid yn drydan yn y dyfodol,
ond nid yw’n cynnwys ynni wedi ei storio mewn cyfleuster storio hydrodrydan â phwmp;.”.
(4) Ar ôl rheoliad 4A (gorsafoedd cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir) mewnosoder—
4B.—(1) Nid yw gosod llinell drydan uwchben y ddaear ond o fewn rheoliad 3(1)(ab)—
(a)os oes gan y llinell o dan sylw foltedd enwol o 132 cilofolt neu lai; a
(b)os yw’r llinell o dan sylw yn gysylltiedig ag adeiladu neu estyn gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru sydd wedi cael caniatâd cynllunio neu sydd wedi cael cydsyniad ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “dyfroedd Cymru” (“Welsh waters”) yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru;
ystyr “gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru” (“devolved Welsh generation station”) yw gorsaf gynhyrchu—
sydd yng Nghymru ac—
sy’n cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt, neu
sydd â’r gallu cynhyrchu uchaf o 350 megawat neu lai; neu
sydd yn nyfroedd Cymru ac sydd â’r gallu cynhyrchu uchaf o 350 megawat neu lai;
ystyr “llinell drydan” (“electric line”) yw unrhyw linell sy’n cael ei ddefnyddio i ddargludo trydan at unrhyw ddiben ac sy’n cynnwys, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
unrhyw gynhaliad ar gyfer unrhyw linell o’r fath, hynny yw, unrhyw strwythur, polyn neu wrthrych arall y mae unrhyw linell o’r fath yn cael ei chynnal, ei chario neu ei chrogi ynddo, arno, ganddo neu ohono neu y gall unrhyw linell o’r fath gael ei chynnal, ei chario neu ei chrogi ynddo, arno, ganddo neu ohono;
unrhyw gyfarpar sy’n gysylltiedig ag unrhyw linell o’r fath at ddiben dargludo trydan; ac
unrhyw wifren, cebl, tiwb, pibell neu wrthrych tebyg arall (gan gynnwys ei chasin neu ei gasin neu ei gorchudd neu ei orchudd) sy’n amgylchynu neu sy’n cynnal unrhyw linell o’r fath, neu sydd wedi ei hamgylchynu neu ei amgylchu neu ei chynnal neu ei gynnal ganddi, neu wedi ei gosod neu ei osod yn agos ati, neu wedi ei chynnal neu ei gynnal, ei chario neu ei gario neu ei chrogi neu ei grogi mewn cysylltiad ag unrhyw linell o’r fath; ac
mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2).”
O.S. 2016/53 (Cy. 23), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/358 (Cy. 111).
2006 p. 32. Mewnosodwyd y diffiniad o “Welsh zone” gan adran 43 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: