- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae rheoliad 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraffau (3) a (4) rhodder—
“(3) Nid yw ffi ond yn daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chais tybiedig os ar y dyddiad perthnasol mewn cysylltiad â’r materion y datgenir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio—
(a)y byddai ffi wedi bod yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i’r awdurdod perthnasol; neu
(b)y byddai ffi wedi bod yn daladwy o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i Weinidogion Cymru.
(4) Swm y ffi yw—
(a)pan fyddai cais wedi ei wneud i’r awdurdod perthnasol, dwywaith swm y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais; neu
(b)pan fyddai cais wedi ei wneud i Weinidogion Cymru, dwywaith swm y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy i’r awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â’r cais pe bai’r cais wedi ei wneud i’r awdurdod a phe bai’r datblygiad wedi dod o fewn paragraff 9(b) o Ran 2 o Atodlen 1.”
(3) Ym mharagraff (9) ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “neu” ac ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“neu
(c)cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol, wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu i Weinidogion Cymru y ffi sy’n daladwy pan wneir y cais hwnnw,”.
O.S. 2015/1522 (Cy. 179). Diwygiwyd rheoliad 10 gan O.S. 2017/528 (Cy. 111).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: