- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol—
(a)cadw’r dogfennau a anfonir ymlaen at y swyddog yn unol â rheoliad 5(3)(b) am gyfnod o flwyddyn; a
(b)ar ôl y cyfnod hwnnw, beri i’r dogfennau hynny gael eu dinistrio, oni bai bod gorchymyn gan lys sirol, Llys y Goron neu lys ynadon yn cyfarwyddo fel arall.
(2) Ni chaniateir i berson edrych ar unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3)(a)(i) i (iii), (v) i (vii) a (b)(ii) sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, ac eithrio yn unol â gorchymyn a wneir gan lys ar gyfer edrych ar unrhyw ddogfen neu ddangos unrhyw ddogfen at ddiben cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio.
(3) Mewn perthynas â gorchymyn a ddisgrifir ym mharagraff (2)—
(a)pan fo’n ymwneud ag etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru, mae paragraffau (3) i (7) o reol 53 o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006(1) yn gymwys yn unol â pharagraff (4); a
(b)pan fo’n ymwneud ag etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag, mae paragraffau (3) i (7) o reol 53 o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006(2) yn gymwys yn unol â pharagraff (4).
(4) Mae’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yn gymwys i orchymyn a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan y darpariaethau hynny, ac eithrio y dylid darllen cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny at “counted ballot papers” fel cyfeiriadau at y dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3)(a)(i) i (iii), (v) i (vii) a (b)(ii).
(5) Mae adran 176 o Ddeddf 1983 (terfyn amser ar gyfer erlyniadau)(3) yn gymwys mewn cysylltiad â dogfennau a gedwir gan y swyddog cofrestru perthnasol o dan baragraff (1) a dylid darllen cyfeiriadau at “rule 57 of the parliamentary elections rules” yn is-adrannau (2C) a (2D) fel cyfeiriad at reoliad 6(1) o’r Rheoliadau hyn.
(6) Mae adran 54 o Ddeddf 1983 (talu treuliau cofrestru)(4) yn gymwys i arfer swyddogaethau’r swyddog cofrestru perthnasol o dan y rheoliad hwn fel y mae’n gymwys i arfer swyddogaethau’r swyddog cofrestru o dan Ddeddf 1983.
Diwygiwyd adran 176 gan adrannau 24 a 28 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50), paragraff 61 o Atodlen 4 iddi ac Atodlen 5 iddi.
Diwygiwyd adran 54 gan baragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985; a chan baragraffau 1 a 17 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 (p. 6).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: