- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Caiff yr ymgymerwr at ddibenion y Gorchymyn hwn—
(a)arolygu unrhyw dir a ddangosir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir neu y gall y gweithfeydd awdurdodedig effeithio arno neu ymchwilio iddo;
(b)heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-baragraff (a), gwneud tyllau treialu yn y cyfryw leoliadau ag y gwêl yr ymgymerwr yn dda ar y tir er mwyn ymchwilio i natur haen yr arwyneb a’r is-bridd a thynnu samplau o bridd;
(c)heb ragfarnu cyffredinolrwydd paragraff (a), cynnal ymchwiliadau ecolegol neu archaeolegol ar y cyfryw dir;
(d)gosod cyfarpar i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arolygu ac ymchwilio i’r tir a gwneud tyllau treialu ar y tir, ei adael ar y tir neu ei dynnu ymaith; ac
(e)mynd ar y tir at ddiben arfer y pwerau a roddir gan is-baragraffau (a) i (d).
(2) Ni chaniateir mynd ar dir na gosod cyfarpar arno, ei adael arno na’i dynnu ymaith o dan baragraff (1), oni hysbysir pob perchennog ar y tir a phob meddiannydd o leiaf 7 diwrnod ymlaen llaw a bod y cyfryw hysbysiad yn cynnwys hysbysu’r derbynnydd am ei hawl i gael ei ddigolledu o dan baragraff (13).
(3) Os yw’r ymgymerwr yn bwriadu gwneud unrhyw un o’r canlynol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys manylion am yr hyn a fwriedir—
(a)chwilio, turio neu gloddio;
(b)gadael cyfarpar ar dir;
(c)cymryd samplau;
(d)arolwg o’r awyr; ac
(e)cyflawni unrhyw weithgareddau eraill a all fod yn ofynnol er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth â’r offerynnau a grybwyllir ym mharagraff (4).
(4) Yr offerynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(e) yw—
(a)Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(1); neu
(b)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(2).
(5) Mewn perthyn ag unrhyw berson sy’n mynd ar dir o dan yr erthygl hon ar ran yr ymgymerwr—
(a)mae’n rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, cyn neu ar ôl mynd ar y tir ddangos tystiolaeth ysgrifenedig o’i awdurdod i wneud hynny gan gynnwys unrhyw warant a roddir o dan baragraff (6); a
(b)ni chaniateir iddo ddefnyddio grym oni bai bod ynad heddwch wedi rhoi gwariant o dan baragraff (6).
(6) Caiff ynad heddwch roi gwarant sy’n awdurdodi person i ddefnyddio grym wrth arfer y pŵer a roddwyd gan yr erthygl hon os yw wedi’i fodloni—
(a)bod person arall wedi atal neu’n debygol o atal arfer y pŵer hwnnw; a
(b)ei bod yn rhesymol defnyddio grym wrth arfer y pŵer hwnnw.
(7) Mae’r grym y gellir ei awdurdodi drwy warant wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n rhesymol angenrheidiol.
(8) Rhaid i warant sy’n awdurdodi’r person i ddefnyddio grym bennu nifer yr achlysuron y gall yr ymgymerwr ddibynnu ar y warant wrth fynd ar dir, ei arolygu neu ei brisio.
(9) Rhaid mai’r nifer a bennwyd yw’r nifer y mae’r ynad heddwch yn barnu ei fod yn briodol er mwyn cyflawni’r diben y mae’n ofynnol mynd ar dir a’i arolygu neu ei brisio ar ei gyfer.
(10) Rhaid i unrhyw dystiolaeth mewn achos cyfreithiol i gael gwarant o dan yr erthygl hon gael ei rhoi ar lw.
(11) Ni chaniateir gwneud unrhyw dyllau treialu o dan yr erthygl hon—
(a)mewn cerbytffordd neu droedffordd heb gydsyniad yr awdurdod priffyrdd; neu
(b)mewn stryd breifat heb gydsyniad yr awdurdod strydoedd,
ond ni chaniateir atal y cyfryw gydsyniad yn afresymol.
(12) Os bydd awdurdod priffyrdd neu awdurdod strydoedd y cyflwynir cais am gydsyniad iddo yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am ei benderfyniad o fewn 56 diwrnod i gael y cais am gydsyniad–
(a)o dan baragraff (11)(a) yn achos awdurdod priffyrdd; neu
(b)o dan baragraff (11)(b) yn achos awdurdod strydoedd;
tybir bod yr awdurdod hwnnw wedi rhoi cydsyniad.
(13) Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr y tir am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi drwy arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, y penderfynir ar y cyfryw ddigollediad, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(14) Mae paragraffau (1) i (13) yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron, fodd bynnag dim ond os oes person wedi cael caniatâd yr awdurdod priodol y caiff arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1) mewn perthynas â thir y Goron.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: