- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynnal a chadw sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr—
(a)mynd ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a’i feddiannu dros dro os yw’r cyfryw feddiannu yn rhesymol ofynnol at ddiben cynnal a chadw’r gwaith neu unrhyw weithfeydd ategol sy’n gysylltiedig ag ef; a
(b)adeiladu’r cyfryw weithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir ag sy’n rhesymol angenrheidiol at y diben hwnnw.
(2) Nid yw paragraff (1) yn awdurdodi’r ymgymerwr i feddiannu dros dro—
(a)unrhyw dŷ neu ardd sy’n eiddo i dŷ; neu
(b)unrhyw adeilad (heblaw am dŷ) os yw wedi’i feddiannu am y tro.
(3) Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.
(4) Caiff yr ymgymerwr ond parhau i feddiannu tir o dan yr erthygl hon am gyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i gynnal a chadw’r rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig y meddiannwyd y tir ar eu cyfer.
(5) Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr waredu’r holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir.
(6) Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.
(7) Bydd unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (6), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, yn cael ei benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(8) Heb ragfarnu erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (6).
(9) Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, ni fydd yn ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.
(10) Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro yn unol â’r erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965).
(11) Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod cynnal a chadw”, mewn perthynas â gwaith awdurdodedig, yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gwaith yn cael ei agor i’w ddefnyddio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: