- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig, fynd ar gymaint o unrhyw un o’r strydoedd a bennir yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn ag sydd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a chaiff—
(a)torri neu agor y stryd, neu unrhyw garthffos, draen neu dwnnel oddi tani,
(b)twnelu neu durio o dan y stryd;
(c)gosod cyfarpar yn y stryd;
(d)cynnal a chadw cyfarpar yn y stryd neu newid ei leoliad; a
(e)gwneud unrhyw weithfeydd sy’n ofynnol ar gyfer unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a)-(d) neu sy’n gysylltiedig â hwy.
(2) Mae’r awdurdod a roddir gan baragraff (1) yn hawl statudol at ddibenion adrannau 48(3) (strydoedd, gweithfeydd stryd ac ymgymerwyr) a 51(1) (gwahardd gweithfeydd stryd anawdurdodedig) o Ddeddf 1991.
(3) Mae adrannau 54 i 106 o Ddeddf 1991 yn gymwys i unrhyw weithfeydd stryd a gyflawnir o dan baragraff (1).
(4) Mae’r erthygl hon yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol etc) i’r Gorchymyn hwn.
(5) Yn yr erthygl hon mae i “cyfarpar” yr yn ystyr â “apparatus” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, caiff yr ymgymerwr, mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, gau, newid neu ddargyfeirio unrhyw stryd dros dro a chaiff, am unrhyw gyfnod rhesymol—
(a)dargyfeirio’r traffig o’r stryd; ac
(b)atal personau rhag mynd ar hyd y stryd.
(2) Heb gyfyngu ar gwmpas ar baragraff (1), caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw stryd sy’n cael ei chau o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir fel safle gwaith dros dro.
(3) Pan fo’r ymgymerwr yn atal personau rhag mynd ar hyd y stryd, rhaid i’r ymgymerwr roi mynediad rhesymol i neu o safleoedd sy’n ffinio â stryd neu a wasanaethir gan stryd yr effeithir arni o ganlyniad i gau, newid neu ddargyfeirio stryd dros dro o dan yr erthygl hon pe na bai’r cyfryw fynediad fel arall.
(4) Heb gyfyngu ar baragraff (1), caiff yr ymgymerwr gau, newid neu ddargyfeirio dros dro y strydoedd a nodir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 4 (strydoedd sydd i’w cau dros dro) i’r graddau a bennir, drwy gyfeirio at y llythrennau a’r rhifau a ddangosir ar blaniau’r tir, yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno.
(5) Rhaid i’r ymgymerwr beidio â chau, newid na dargyfeirio dros dro—
(a)y strydoedd a nodir fe y’u crybwyllir ym mharagraff (4) heb ymgynghori â’r awdurdod strydoedd yn gyntaf; ac
(b)unrhyw stryd arall heb gydsyniad yr awdurdod strydoedd, a gaiff atodi amodau rhesymol i unrhyw gydsyniad, gan gynnwys ynglŷn â’r rhybudd i’w roi.
(6) Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled drwy atal unrhyw ffordd fynediad breifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(7) Os, o fewn 56 diwrnod i gael cais am gydsyniad o dan baragraff (5)(b), bydd awdurdod strydoedd yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am ei benderfyniad neu’n gwrthod rhoi cydsyniad heb roi unrhyw seiliau dros wrthod, bernir bod yr awdurdod strydoedd hwnnw wedi rhoi ei gydsyniad.
(8) Mae’r erthygl hon yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol etc) i’r Gorchymyn hwn.
9. Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig—
(a)ffurfio a gosod ffordd fynediad, neu wella ffordd fynediad bresennol, yn y lleoliad a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 5 (mynediad i weithfeydd) yn y pwynt a nodir ag A ar blaniau’r tir ar gyfer y Gorchymyn hwn neu tua’r pwynt hwnnw; a
(b)chyda chymeradwyaeth yr awdurdod priffyrdd perthnasol ar ôl ymgynghori, nad atelir y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol, ffurfio a gosod y cyfryw ffordd fynediad arall neu wella ffordd fynediad bresennol, yn y cyfryw leoliadau o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir ag sydd ei hangen yn rhesymol ar yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig.
10.—(1) Caiff awdurdod strydoedd a’r ymgymerwr ymrwymo i gytundebau mewn perthynas ag—
(a)cau, newid neu ddargyfeirio unrhyw stryd a awdurdodir drwy’r Gorchymyn hwn; neu
(b)cyflawni yn y stryd unrhyw un o’r gweithfeydd y cyfeirir atynt yn erthygl 7 (pŵer i wneud gweithfeydd stryd).
(2) Caiff y cyfryw gytundeb, heb gyfyngu ar baragraff (1),—
(a)gwneud darpariaeth ar gyfer yr awdurdod strydoedd i gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan y Gorchymyn hwn sy’n ymwneud â’r stryd dan sylw;
(b)cynnwys cytundeb rhwng yr ymgymerwr a’r awdurdod strydoedd sy’n pennu cyfnod rhesymol ar gyfer cwblhau’r gweithfeydd; ac
(c)cynnwys y cyfryw delerau ynglŷn â thâl ac fel arall fel y tybia’r partïon yn briodol.
11.—(1) Caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw ffordd breifat o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir neu unrhyw ffordd breifat sy’n ffinio â therfynau’r Gorchymyn ar y tir sydd â chyffordd â’r cyfryw ffordd ar gyfer tramwy personau neu gerbydau (gyda neu heb ddeunyddiau, offer a pheiriannau) at ddibenion adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â hynny.
(2) Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am atgyweirio ffordd y mae paragraff (1) yn gymwys iddi am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y person hwnnw drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1).
(3) Mae unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (2), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, i’w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: